Dechreuodd ymgynghoriad ffurfiol cyn ymgeisio (YCY)
Mae Robertson Property Ltd. a Chyngor Caerdydd (fel Ymgeisydd ar y cyd) yn bwriadu cyflwyno cais cynllunio i Gyngor Caerdydd ar gyfer y canlynol:
“Cais cynllunio hybrid ar gyfer datblygiad arfaethedig rhan o uwchgynllun defnydd cymysg o fewn yr Harbwr Mewnol, Bae Caerdydd. Gan gynnwys manylion amlinellol ar gyfer hyd at 1,050 o anheddau preswyl (Dosbarth Defnydd C3), 1,320 o fannau gwely gwesty (Dosbarth Defnydd C1), 19,500 metr sgwâr o arwynebedd llawr cyflogaeth (Dosbarth Defnydd B1), 27,500 metr sgwâr o arwynebedd llawr hamdden (Dosbarth Defnydd D1 a D2) a 12,550 metr sgwâr o arwynebedd llawr manwerthu (Dosbarth Defnydd A1 ac A3). Ynghyd â thir cyhoeddus cysylltiedig, mannau agored, tirlunio caled a meddal, draenio, cerdded, beicio, parcio ceir a seilwaith trafnidiaeth arall.
Ynghyd â manylion llawn ar gyfer arena capasiti gofod 15,000 (Dosbarth Defnydd D2), gwesty â 182 gwely (Dosbarth Defnydd C1) ynghyd â thir cyhoeddus cysylltiedig, tirlunio caled a meddal, draenio, cerdded, beicio, parcio ceir a seilwaith trafnidiaeth arall.”
Dechreuodd ymgynghoriad ffurfiol cyn ymgeisio (YCY) ar gais drafft Glanfa’r Iwerydd, Uwchgynllun Butetown ar 1 Medi 2021 a bydd yn dod i ben ar 29 Medi 2021.
Mae copïau o’r dogfennau cais cynllunio drafft yn cynnwys y cais arfaethedig, mae cynlluniau a dogfennau ategol ar gael i’w gweld ar-lein yma. Yn ystod y cyfnod hwn, cewch gyfle i roi sylwadau uniongyrchol ar y cais drafft cyn ei gyflwyno i Gyngor Caerdydd fel yr awdurdod cynllunio lleol (ACLl).
Bydd yr ACLl yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r cais cynllunio dilynol ac ni fydd unrhyw sylwadau a roddir mewn ymateb i’r cais drafft hwn yn amharu ar eich gallu i gyflwyno sylwadau i’r ACLl ar y cais llawn cysylltiedig. Sylwch y gellir rhoi unrhyw sylwadau a gyflwynwch ar y ffeil gyhoeddus.
Rhaid i unrhyw un sy’n dymuno cyflwyno sylwadau am y datblygiad arfaethedig ysgrifennu at yr ymgeisydd/asiant drwy e-bost: info@atlanticwharfcardiff.co.uk neu drwy’r post i Glanfa’r Iwerydd, Ymgynghoriad Uwchgynllun Butetown, Arup, 4 Stryd Pierhead, Capital Waterside, Glanfa’r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4QP erbyn dydd Mercher 29 Medi 2021.
Crynodeb Annhechnegol | Gweld yma |