Caethwasiaeth Fodern

Caethwasiaeth Fodern 2020/2021

Datganiad

Mae Robertson Group Holdings Limited wedi ymrwymo i chwarae ein rhan i ddileu Caethwasiaeth Fodern yn ei holl ffurfiau o’n cadwyn fusnes a chyflenwi. Rydym yn cymryd y camau priodol i sicrhau bod pawb sy’n gweithio i Robertson yn elwa o amgylchedd gwaith lle mae eu hawliau dynol sylfaenol yn cael eu parchu a bod unrhyw un yr ydym yn gwneud busnes ag ef hefyd yn cynnal yr egwyddorion hyn.

Mae’r wybodaeth yn y datganiad hwn yn manylu ar y polisïau, y prosesau a’r camau rydym wedi’u cymryd i sicrhau nad yw caethwasiaeth a masnachu mewn pobl yn digwydd yn ein cadwyni cyflenwi nac unrhyw ran o’n busnes ein hun. Mae’n cwmpasu gweithgareddau pob is-fusnes o fewn Robertson Group Holdings Limited a dyma ein datganiad Caethwasiaeth Fodern ar gyfer 2020/2021 fel sy’n ofynnol o dan ddarpariaethau Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 (y “Ddeddf”).

Ein diben

Mae Robertson Group Holdings Limited wedi ymrwymo i fod yn sefydliad a arweinir gan ddibenion sy’n bodoli i ‘sicrhau dyfodol cynaliadwy’ i’n holl randdeiliaid, dyna sy’n ein gwneud yn wahanol. Mae ein diben yn llywio ein penderfyniadau dyddiol ac yn rhoi sicrwydd ar gyfer:

  • ein cwsmeriaid, y sicrwydd y byddwn yn cyflawni’r hyn rydyn ni’n addo ei wneud
  • ein pobl, y sicrwydd o gyfle a chynnydd, a gwybod bod eu diogelwch yn hollbwysig;
  • y cymunedau rydym yn gweithredu ynddynt, y sicrwydd y byddwn yn ymgynghori’n agored ac yn gweithio i ddatblygu etifeddiaeth gadarnhaol a pharhaol.
  • ein cyflenwyr a’n partneriaid – drwy eu trin yn deg a’u hannog i gyflawni; a’r
  • gymdeithas – drwy weithredu fel busnes cyfrifol i’n cymunedau.

Ein hegwyddorion

Mae Robertson Group Holdings Limited yn ymdrechu i greu gwell canlyniadau i’n holl randdeiliaid drwy fyw ein hegwyddorion:

  • Rydym yn gwrando
  • Rydym yn broffesiynol
  • Rydym yn cymryd cyfrifoldeb
  • Rydym yn benderfynol o lwyddo 
  • Rydym yn un tîm

Rydym yn dod â’r egwyddorion hyn yn fyw drwy ein hymddygiad o ddydd i ddydd a thrwy anelu at roi ein diben wrth wraidd popeth a wnawn. Er mwyn sicrhau bod ein gweithwyr yn ymwybodol o’r Ddeddf ac ysgogwyr Caethwasiaeth Fodern, yn ogystal â’r risgiau posibl, rydym yn rhannu’r datganiad hwn gyda’r holl weithwyr drwy ein sianeli cyfathrebu mewnol ac mae copi o’r datganiad hwn ar gael ar ein gwefan www.robertson.co.uk. Rydym wedi darparu hyfforddiant am ein prosesau diwydrwydd dyladwy i dimau caffael perthnasol, gan eu gwneud yn ymwybodol o’r Ddeddf a’r rôl y maent yn ei chwarae wrth sicrhau ein bod yn gweithio gyda’n cadwyn gyflenwi i sicrhau eu bod yn cynnal yr un egwyddorion moesegol â ni.

Ein cadwyn gyflenwi

Ar hyn o bryd mae Robertson Group Holdings Limited a Robertson Residential Group yn gweithredu gyda chadwyn gyflenwi gyffredin o tua 3000 o aelodau sydd wedi ymrwymo i fodloni safonau cyfreithiol a moesegol yn eu gweithrediadau o ddydd i ddydd, tra’n sicrhau bod cydymffurfiaeth yn cael ei rheoli’n briodol ar draws eu partneriaid cadwyn gyflenwi eu hunain.

Ar y lleiaf, rydym yn disgwyl i ni a’n cadwyn gyflenwi gydymffurfio â’r holl gyfreithiau a rheoliadau lleol perthnasol gan ddarparu amodau gwaith diogel, trin gweithwyr ag urddas a pharch, gweithredu’n deg ac yn foesegol a defnyddio arferion amgylcheddol gyfrifol lle y bo’n ymarferol.

Mae ein Polisi Caffael Cyfrifol yn nodi’r gofynion hyn sy’n manylu ar egwyddorion sylfaenol sut y byddwn yn cynnal busnes mewn modd agored, gonest a thryloyw, a’r ymddygiadau a’r arferion a ddisgwyliwn gan ein cadwyn gyflenwi, gan gynnwys ymrwymiad i gydymffurfio â’r Ddeddf.

Mae ein telerau ac amodau safonol yn cynnwys cymal i sicrhau bod ein holl gadwyn gyflenwi yn cydymffurfio â’n Polisi Caffael Cyfrifol. Mae Robertson yn cadw’r hawl i derfynu perthynas â chyflenwr neu drydydd parti nad yw’n gallu dangos cydymffurfiaeth na chynnydd tuag at ddileu Caethwasiaeth Fodern o fewn ei threfniadaeth a’i gadwyn gyflenwi.

Cydymffurfiaeth y gadwyn gyflenwi â’n Polisi Caffael Cyfrifol

Rydym yn cydnabod ein hymrwymiad statudol i nodi’r camau yr ydym wedi’u cymryd ac y byddwn yn parhau i’w cymryd fel busnes cyfrifol i sicrhau nad oes unrhyw achosion o Gaethwasiaeth Fodern na masnachu mewn pobl yn ein cadwyn gyflenwi. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod nad ydym yn rheoli ymddygiad unigolion a sefydliadau yn ein cadwyn gyflenwi.

Bydd cydymffurfiaeth ein cadwyn gyflenwi â’n Polisi Caffael Cyfrifol yn cael ei monitro drwy ein proses Gaffael a byddwn yn cynnal ac yn monitro cerdyn sgorio risg cadwyn gyflenwi a fydd yn asesu amlygiad cyflenwr i risgiau gan gynnwys Caethwasiaeth Fodern.

Diwydrwydd dyladwy       

Robertson Group Holdings Limited sy’n cynnal diwydrwydd dyladwy ar ei holl gadwyn gyflenwi. Mae’r diwydrwydd dyladwy hwn yn cynnwys chwiliad ar-lein i sicrhau nad yw cyflenwyr wedi’u cael yn euog o droseddau sy’n ymwneud â Chaethwasiaeth Fodern. Yn ogystal, fel rhan o’n contract gydag unrhyw aelod o’r gadwyn gyflenwi, rydym yn ei gwneud yn ofynnol i’n cadwyn gyflenwi gadarnhau’r canlynol:

1. Eu bod wedi cymryd camau i ddileu Caethwasiaeth Fodern o fewn eu busnes.

2. Eu bod yn dal eu cadwyn gyflenwi eu hunain i gyfrif dros Gaethwasiaeth Fodern.

3. Eu bod yn talu o leiaf yr isafswm cyflog cenedlaethol / cyflog byw cenedlaethol i’w gweithwyr (fel y bo’n briodol).

Bydd Robertson Group Holdings Limited yn gorfodi ei hawliau cytundebol pe bai unrhyw achosion o Gaethwasiaeth Fodern yn dod i’r amlwg. Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i sicrhau na oddefir unrhyw arferion busnes – naill ai’n fewnol neu drwy ein cadwyn gyflenwi allanol – sy’n groes i Adran 54 a/neu Gymal 5 o’r Ddeddf.

Yn ogystal, er mwyn dangos cydymffurfiaeth â’r Polisi Caffael Cyfrifol, gofynnir cyfres o gwestiynau diwydrwydd dyladwy i gyflenwyr newydd a’r rhai sy’n cael eu hadnewyddu.  Y pynciau a gwmpesir yw masnachu mewn pobl a chaethwasiaeth, iechyd a diogelwch, yr amgylchedd, diogelu data, diogelwch gwybodaeth a llwgrwobrwyo.

Rheoli risg

Mae Robertson Group Holdings Limited wedi ymrwymo i adolygu a diweddaru ein dull o nodi a rheoli risg sy’n gysylltiedig â’n cadwyn gyflenwi yn barhaus. Rydym wedi ymrwymo i ymgymryd â’r camau canlynol:

  • Datblygu llwybrau dysgu’n rhagweithiol ar gyfer cyflogeion a phartneriaid yn y gadwyn gyflenwi er mwyn creu ymwybyddiaeth bellach ym mhob rhan o’r busnes er mwyn sicrhau ein bod i gyd yn sbarduno ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o effeithiau Caethwasiaeth Fodern.
  • Datblygu rheolaethau ar y safle drwy weithredu prosesau a gweithdrefnau ehangach sy’n cefnogi’r gallu i nodi risgiau penodol sy’n gysylltiedig â Chaethwasiaeth Fodern tra’n darparu llwyfan i gefnogi gwelliannau yn y dyfodol.
  • Parhau i wella ein rhaglen ymgysylltu â’n cadwyn gyflenwi, sy’n nodi meysydd lle mae risg uchel, er mwyn cynyddu ein dylanwad ar weithgareddau drwy gydol eu cadwyn gwerth llawn.
  • Defnyddio adnoddau allanol i gefnogi ymwybyddiaeth o risg a datblygu rheolaethau i fynd i’r afael â’r mater hwn ar draws pob maes o’n busnes mewnol a’n cadwyn gyflenwi estynedig.

Er mwyn cefnogi ein hymrwymiad, rydym wedi datblygu a gweithredu’r mesurau lliniaru risg canlynol yn 2019 a 2020:

  • Cynnal adolygiad pen desg blynyddol o gydymffurfiaeth â gofynion Caethwasiaeth Fodern ar gyfer ein 400 aelod mwyaf o’r gadwyn gyflenwi gyffredin mewn perthynas ag 80% o’n gwariant blynyddol ar y gadwyn gyflenwi;
  • Parhau i ddatblygu ymwybyddiaeth o Gaethwasiaeth Fodern drwy e-ddysgu â ffocws i bob cyflogai fel rhan o’r gofynion hyfforddi craidd ar gyfer staff cysylltiedig;
  • Datblygu cydymffurfiaeth ymhellach mewn perthynas â darparu gofynion llafur dros dro a pharhaol, gan ddefnyddio Rhestr Cyflenwyr a Ffefrir a reolir ym mhob rhan o’r busnes, i gefnogi ein cydymffurfiaeth â Chyfraith Mewnfudo a Chyflogaeth y DU;
  • Parhau i atgyfnerthu ein hymgyrch i wella ymwybyddiaeth a chydymffurfiaeth ym mhob rhan o’r gadwyn gyflenwi drwy gyflwyno cynhadledd cadwyn gyflenwi ar draws y grŵp, cefnogi digwyddiadau ymwybyddiaeth o’r gadwyn gyflenwi a chynnal arolwg cydymffurfio;
  • Hyrwyddo aelodaeth o’r gadwyn gyflenwi gydag Ysgol Gynaliadwyedd y Gadwyn Gyflenwi er mwyn rhoi mwy o arweiniad a chymorth i holl aelodau’r gadwyn gyflenwi; a
  • Chyflwyno ein system gynefino electronig i sicrhau bod gan bob gweithiwr safle hawl i weithio yn y DU.

Byddwn yn cofnodi effeithiolrwydd y camau yr ydym yn eu cymryd i sicrhau nad yw caethwasiaeth a/neu fasnachu mewn pobl yn digwydd yn ein busnes na’n cadwyn gyflenwi. Byddwn yn gwneud hyn drwy fesur a dwysáu unrhyw adroddiadau a dderbynnir gan gyflogeion, ein cwsmeriaid, y cyhoedd, neu asiantaethau gorfodi’r gyfraith i ddangos bod arferion Caethwasiaeth Fodern wedi’u nodi.

Hyfforddiant

Fel partneriaid Ysgol Gynaliadwyedd y Gadwyn Gyflenwi, rydym yn parhau i ddefnyddio adnoddau hyfforddi ar draws y diwydiant ar gyfer ein gweithwyr ein hun a rhai ein cadwyn gyflenwi. Rydym yn mynd ati i hyrwyddo cymryd rhan mewn digwyddiadau a sesiynau briffio a gynhelir gan yr ysgol ynghyd â hyrwyddo modiwlau e-ddysgu cysylltiedig i sicrhau bod ymwybyddiaeth yn cael ei chynnal ar draws yr holl bartïon.

Polisïau perthnasol

Mae gan Robertson Group Holdings Limited bolisïau a gweithdrefnau cysylltiedig ar waith i sicrhau ein bod yn cynnal ein busnes mewn modd moesegol a thryloyw. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Polisi recriwtio;
  • Polisi chwythu’r chwiban;
  • Polisi caffael cyfrifol; a
  • Pholisi cyfle cyfartal.

Bydd unrhyw achos o dorri polisi Robertson Group Holdings Limited yn cael ei ystyried yn fater difrifol a bydd yn arwain at gymryd camau priodol.

Cymeradwyaeth y bwrdd

Gwneir y datganiad hwn yn unol ag Adran 54(1) o’r Ddeddf. Cymeradwyodd Bwrdd Robertson Group Holdings Limited y datganiad hwn ar 11 Rhagfyr 2020. Caiff y datganiad ei adolygu a’i ddiweddaru ym mis Medi 2021.

Elliot Robertson

Prif Swyddog Gweithredol

Robertson Group Holdings Limited

Scroll to Top