Yr arena

Gweledigaeth feiddgar ar gyfer dyfodol adloniant byw yng Nghaerdydd 

Arena amlbwrpas y bydd pawb am ei chwarae, gyda chapasiti o 15,000, a fydd yn croesawu rhai o’r enwau mwyaf yn y diwydiant cerddoriaeth, sioeau teuluol, comedi a digwyddiadau chwaraeon. Lleoliad wedi’i gynllunio gydag artistiaid, ffans a’r gymuned mewn golwg. Lle sy’n dod yn ffynhonnell o swyddi lleol, sy’n cefnogi cerddorion lleol ac sy’n rhoi rheswm gwych arall i ymweld â Chaerdydd, dro ar ôl tro. 

Powlen yr arena: siâp y dyfodol 

Mae’r dyluniad arfaethedig – arena unllawr i ddwysáu’r awyrgylch i wylwyr a pherfformwyr – yn golygu y bydd hwn yn lleoliad unigryw. Gall y seddi a’r gofod llawr gael eu haddasu i gynulleidfaoedd o rhwng 3,500 a 15,000 ac amrywiaeth o ddigwyddiadau, o chwaraeon i sioeau teuluol yn ogystal â cherddoriaeth ac adloniant byw. 

Gydag acwsteg o’r radd flaenaf, gall ffans a pherfformwyr fod yn siŵr o’r profiad sain gorau, tra bod lefelau sŵn yn cael eu hamsugno i sicrhau amgylchedd heddychlon y tu allan i’r arena. Mae’r dyluniad yn cynnwys ystyriaethau allweddol gan gynnwys diogelu golau haul a phreifatrwydd i eiddo cyfagos, ac yn gwneud y defnydd gorau posibl o ynni’r haul ymhlith mesurau cynaliadwyedd eraill. 

Mae’r arena newydd yn arwyddocaol o ran parhau i ddatblygu Caerdydd fel dinas gerddoriaeth bwysig, yn ogystal â chefnogi talent leol. 

Scroll to Top