Cymuned

Cael effaith gadarnhaol gyda’n gilydd 

Yn y flwyddyn i ddod byddwn yn gweithio gyda grwpiau cymunedol lleol i ddeall yn llawn sut y gall y prosiect hwn gefnogi trigolion a busnesau lleol. Mae gweithio fel hyn yn sicrhau ein bod yn targedu ein cefnogaeth i’r mentrau a’r gweithgareddau a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar garreg eich drws. 

Byddwn yn edrych ar sut y gallwn sicrhau bod y swyddi sydd ar gael yn mynd i’r rhai sy’n byw mewn cymunedau cyfagos, a byddwn yn sicrhau bod y mannau a’r lleoedd a grëir wedi’u cynllunio ar gyfer y rhai sy’n byw yn Butetown ac o’i amgylch yn ogystal ag ymwelwyr o fannau eraill. Byddwn hefyd yn ceisio helpu i ddatblygu talent o fewn yr ardal, o blant ysgol i fusnesau lleol, rydym am i gynyrchiadau’r dyfodol adlewyrchu ein cymunedau. Bydd y datblygiad hefyd yn ceisio adeiladu ar asedau’r Bae, ei hanes, a’i gymunedau, a sicrhau ei fod yn cael ei weld fel rhan o Butetown, nid ychwanegiad.

Scroll to Top