Polisi Preifatrwydd

Polisi Preifatrwydd

Cyngor Caerdydd sy’n arwain yr uwchgynllun adfywio ar gyfer Glanfa’r Iwerydd Butetown, Caerdydd. Mae Cyngor Caerdydd hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â chonsortiwm Live Nation Entertainment, Oak View Group a Robertson Group i ddatblygu cynlluniau ar gyfer arena adloniant dan do yng Nglanfa’r Iwerydd.

At ddibenion deddfwriaeth diogelu data berthnasol, y cwmni sy’n gyfrifol am eich data personol yw Robertson Group (‘Robertson’, ‘ni’ neu ‘ein’). Bydd Robertson yn gwneud pob ymdrech resymol i ddiogelu eich preifatrwydd pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon ac yn parchu eich preifatrwydd mewn perthynas ag unrhyw wybodaeth y gallwn ei chasglu wrth ei gweithredu.

Mae Robertson Group yn gwmni cyfyngedig sydd wedi’i gofrestru yn yr Alban dan rif cwmni SCO60077. Ein cyfeiriad cofrestredig yw 10 Perimeter Road, Pinefield, Elgin.

Mae’r polisi hwn yn esbonio’r hyn a wnawn gyda’ch ‘data personol’ neu wybodaeth bersonol, wrth ddefnyddio’r wefan hon: atlanticwharfcardiff.co.uk a glanfariweryddcaerdydd.co.uk.  Mae data personol, neu wybodaeth bersonol, yn golygu unrhyw wybodaeth am unigolyn y gellir ei ddefnyddio i adnabod y person hwnnw.

Newidiadau i’r Polisi Preifatrwydd

Er bod y rhan fwyaf o newidiadau’n debygol o fod yn fân newidiadau’n unig, gall Robertson newid y Polisi Preifatrwydd hwn o bryd i’w gilydd, felly rydym yn annog ymwelwyr i wirio’r dudalen hon yn aml am unrhyw newidiadau. Bydd eich defnydd parhaus o’r wefan hon ar ôl unrhyw newid yn y Polisi Preifatrwydd hwn yn golygu eich bod yn derbyn newid o’r fath.

Cyfieithu

Ysgrifennwyd ein Polisi Preifatrwydd yn Saesneg yn wreiddiol cyn ei gyfieithu i’r Gymraeg atlanticwharfcardiff.co.uk/privacy-policy/. Os bydd gwrthdaro rhwng y cyfieithiad o’n Polisi Preifatrwydd a’r fersiwn Saesneg, y fersiwn Saesneg fydd yn rheoli. 

Scroll to Top