Amdanon ni

Adeiladu Arena Caerdydd: adeiladu’r tîm cywir i’w chyflawni 

Mae Cyngor Dinas Caerdydd, Live Nation Entertainment ac Oak View Group (OVG) – gyda Robertson Group fel datblygwyr – yn cynnig dod ag arena ddigwyddiadau o’r radd flaenaf i Gaerdydd. 

Mae Live Nation ac OVG, sydd ill dau’n arweinwyr mewn adloniant byw byd-eang, rheoli lleoliadau a thocynnau, ac sydd â hanes o hyrwyddo sioeau yng Nghaerdydd yn mynd yn ôl i’r 1980au, yn nabod y ddinas yn dda.  

Yn ymuno â Robertson, a ddarparodd TECA Aberdeen – un o ganolfannau digwyddiadau mwyaf cynaliadwy Ewrop, sydd wedi ennill gwobrau – mae tîm sydd â’r gallu i ddatblygu, adeiladu a gweithredu gofod digwyddiadau amlbwrpas o’r radd flaenaf ar gyfer Glanfa’r Iwerydd Butetown, Caerdydd. Ac un sy’n hollol ymrwymedig i gael effaith gadarnhaol ac amlwg mewn cymunedau lleol. 

Cyngor Caerdydd

Mae Cyngor Caerdydd wedi chwarae rhan ganolog yn adfywiad y ddinas yn y degawdau diwethaf. Fel y ddinas sy’n tyfu gyflymaf yn y DU, mae’r Cyngor wedi goruchwylio un o’r trawsnewidiadau mwyaf uchelgeisiol o unrhyw ddinas fawr yn y DU, gan weithio’n agos gyda’r sector preifat i ddenu datblygiadau mawr sydd wedi creu degau o filoedd o swyddi newydd.

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i greu mwy o swyddi gwell i’w breswylwyr, gan sicrhau, lle mae datblygiadau yn mynd rhagddynt, eu bod yn cael eu gwneud er budd y bobl sy’n byw yno a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. www.caerdydd.gov.uk

Robertson Group

Nick Harris, Cyfarwyddwr Eiddo Gweithredol Robertson

Robertson yw un o’r busnesau adeiladu, seilwaith a gwasanaethau cymorth mwyaf yn y DU sy’n berchen i deulu. Mae gennym dros 3,000 o weithwyr talentog yn gweithio ar safleoedd ac yn ein swyddfeydd rhanbarthol sy’n adnabyddus am eu penderfyniad i lwyddo, eu rhagoriaeth mewn gwasanaeth, eu dull tryloyw a’u meddwl arloesol. 

Rydym yn falch o fod yn gymdeithasol, yn economaidd ac yn amgylcheddol gyfrifol, ac yn 2018 daeth Robertson yn un o’r cwmnïau cyntaf yn y sector amgylchedd adeiledig i gael ei achredu fel cwmni carbon niwtral. Fel busnes teuluol sydd â gwreiddiau cryf yn ei gymuned ei hun, mae’n bwysig i ni ein bod yn creu cyfleoedd cyflogaeth a dysgu ym mhobman rydym yn gweithio – a’n bod yn gwneud hynny’n gynaliadwy. Ewch i www.robertson.co.uk

Live Nation Entertainment

Graham Walters, Prif Swyddog Gweithredol Lleoliadau 
Live Nation UK 

Live Nation Entertainment (NYSE: LYV) yw prif gwmni adloniant byw y byd ac mae’n cynnwys arweinwyr marchnad byd-eang: Ticketmaster, Live Nation Concerts, a Live Nation Media & Sponsorship. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i  www.livenationentertainment.com  

Oak View Group 

Mark Donnelly,
Prif Swyddog Gweithredol,
OVG International

Yn Oak View Group, ein cenhadaeth yw newid y ffordd y mae busnes yn cael ei wneud o fewn y diwydiant cerddoriaeth, chwaraeon ac adloniant byw. Wedi’i sefydlu yn 2015 gan Tim Leiweke ac Irving Azoff, rydym yma i greu lleoliadau o’r radd flaenaf sy’n gwthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl i ddarparu’r gorau mewn adloniant byw. 

Ar hyn o bryd mae gennym wyth adran ar draws pum swyddfa fyd-eang yn Llundain, Los Angeles, Efrog Newydd, Philadelphia, a Seattle. Mae ein degawdau o brofiad byd-eang ac arweinyddiaeth bwrpasol yn rhoi’r hwb a’r ystwythder i ni fwrw ymlaen â’r tueddiadau sy’n llywio’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf yn y byd – fel y gallwn ddarparu lleoliadau unigryw i gynulleidfaoedd eu mwynhau am genedlaethau i ddod. Ewch i www.oakviewgroup.com

Scroll to Top