Telerau Defnydd

Telerau Defnydd

TELERAU DEFNYDDIO 

DARLLENWCH Y TELERAU A’R AMODAU HYN YN OFALUS CYN DEFNYDDIO’R WEFAN HON.  

Mae’r Telerau Defnyddio hyn yn dweud wrthych am y rheolau ar gyfer defnyddio atlanticwharfcardiff.co.uk a/neu glanfariweryddcaerdydd.co.uk (“y Wefan”). 

Amdanom ni 

  • Mae’r Robertson Group Limited yn gwmni cyfyngedig sydd wedi’i gofrestru yn yr Alban dan rif cwmni SCO60077. Ein cyfeiriad cofrestredig yw 10 Perimeter Road, Pinefield, Elgin.  
  • Yn y telerau ac amodau hyn, mae ‘ni’ ac ‘ein’ yn golygu’r Robertson Group. Mae ‘chi’ yn golygu defnyddiwr y Wefan. 

Derbyn y telerau 

Mae eich mynediad i’r Wefan a’ch defnydd ohoni yn amodol yn unig ar eich bod yn derbyn yn llawn y telerau, yr amodau a’r ymwadiadau a amlinellir yn y Telerau Defnyddio hyn, ein Polisi Preifatrwydd a’n Polisi Cwcis (y cyfeirir atynt gyda’i gilydd fel y “Telerau”). Darllenwch y Telerau hyn yn ofalus cyn i chi ddefnyddio’r wefan hon. Os nad ydych yn derbyn y Telerau hyn, yna mae’n rhaid i chi roi’r gorau i ddefnyddio’r wefan hon nawr. 

Darllenwch y Polisi Preifatrwydd a’r Polisi Cwcis

Nid yw Robertson yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled a allai godi o ddibynnu ar wybodaeth neu ddeunyddiau a gyhoeddir ar y wefan hon. 

Nid ydym yn cymeradwyo bod y cynnwys sydd ar gael ar neu drwy’r Wefan yn briodol i’w ddefnyddio neu ar gael mewn lleoliadau y tu allan i’r DU. 

Trwydded i’w defnyddio 

Ni fyddwch yn defnyddio’r Wefan at unrhyw ddiben sy’n anghyfreithlon neu sydd wedi’i wahardd gan y Telerau hyn. Mae unrhyw achos o dorri’r Telerau hyn yn golygu y bydd eich hawl i gael mynediad i’r wefan hon a’i defnyddio yn dod i ben ar unwaith. 

Mae defnydd anghyfreithlon yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i’r canlynol: 

  • Ceisio cael mynediad heb awdurdod i gynnwys, cyfrifon, systemau cyfrifiadurol neu rwydweithiau sy’n gysylltiedig â gweinydd y Wefan drwy hacio, cloddio cyfrinair, crafu data neu drwy unrhyw ddull arall i gael unrhyw ddeunyddiau neu wybodaeth nad yw ar gael yn fwriadol ar y Wefan. 
  • Cywain neu gasglu neu storio unrhyw wybodaeth (gan gynnwys gwybodaeth bersonol) am ddefnyddwyr eraill, gan gynnwys cyfeiriadau e-bost, heb gydsyniad datganedig defnyddwyr o’r fath. 
  • Dynwared unrhyw berson neu endid, neu gamliwio eich manylion adnabod neu unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych. 

Defnydd a chydymffurfiaeth ryngwladol 

Mae ymwelwyr yn gyfrifol am sicrhau bod eu defnydd o’r safle yn cydymffurfio â’r holl gyfreithiau lleol, rhyngwladol ac eraill a allai fod yn berthnasol. 

Cwcis  

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod yn cael y profiad gorau. Pan fyddwch yn ymweld â’r safle am y tro cyntaf, gallwch ddewis derbyn ein defnydd o gwcis. Gellir newid gosodiadau ar gyfer defnydd y wefan o gwcis hefyd o’r ddewislen gwcis ar unrhyw adeg.  Ar ôl hynny, gallwch newid eich gosodiadau i’ch hysbysu pan fydd cwci yn cael ei osod neu ei ddiweddaru, neu i rwystro cwcis yn gyfan gwbl – cysylltwch ag adran ‘Help’ eich porwr i gael rhagor o wybodaeth. Darllenwch y polisi cwcis i gael y manylion llawn. 

Cyngor 

Nid yw cynnwys y Wefan yn gyfystyr â chyngor ac ni ddylid dibynnu arno wrth wneud nac ymatal rhag gwneud unrhyw benderfyniadau. 

Terfynu a newidiadau i’r wefan 

Mae Robertson yn cadw’r hawl i: 

  • Newid neu dynnu (dros dro neu’n barhaol) y Wefan neu unrhyw ran ohoni heb rybudd, ac ni fydd y Robertson Group yn atebol i chi am unrhyw newid neu dynnu o’r fath. 
  • Newid y Telerau hyn ar unrhyw adeg, ac wrth barhau i ddefnyddio’r Wefan yn dilyn unrhyw newidiadau, ystyrir eich bod yn derbyn newid o’r fath. 
  • Terfynu mynediad unrhyw ymwelydd ar unrhyw adeg heb rybudd ac yn ôl ein disgresiwn. 

Dolenni i wefannau trydydd parti  

Gall y Wefan gynnwys dolenni i wefannau trydydd parti sy’n cael eu rheoli a’u cynnal gan eraill. Nid yw unrhyw ddolen i wefannau eraill yn golygu ein bod yn cymeradwyo’r gwefannau hynny ac rydych yn cydnabod ac yn cytuno nad ydym yn gyfrifol am gynnwys nac argaeledd unrhyw wefannau o’r fath.  

Nodwch: os hoffech gwblhau’r Ymgynghoriad (https://glanfariweryddcaerdydd.co.uk/consultation/), cewch eich cyfeirio at wefan trydydd parti sy’n cael ei llywodraethu gan delerau defnyddio ychwanegol. 

Hawlfraint  

Mae pob hawlfraint, nod masnach a phob hawl eiddo deallusol arall ar y Wefan a’i chynnwys (gan gynnwys – a hynny heb gyfyngiad – ddyluniad y Wefan, y testun, y graffeg a’r holl feddalwedd a chodau ffynhonnell sy’n gysylltiedig â’r Wefan) yn eiddo neu wedi’u trwyddedu i’r Robertson Group neu fel arall yn cael eu defnyddio gan y Robertson Group fel y caniateir yn ôl y gyfraith. 

Wrth gyrchu’r Wefan rydych yn cytuno y byddwch yn defnyddio’r cynnwys at eich defnydd personol, anfasnachol yn unig. Gallwch argraffu tudalennau unigol o’r cynnwys, neu eu storio’n electronig, at ddibenion defnyddio’r Wefan, ond rhaid i chi beidio â gwneud unrhyw gopïau ychwanegol na defnyddio’r cynnwys at unrhyw ddibenion eraill heb ganiatâd Robertson.   

Os byddwch yn argraffu, copïo neu lawrlwytho unrhyw ran o’n Gwefan yn groes i’r Telerau Defnyddio hyn, byddwn yn cadw ein holl hawliau yn hyn o beth, a bydd eich hawl i ddefnyddio’r Wefan yn dod i ben ar unwaith a rhaid i chi, ar ein dewis ni, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau o’r deunyddiau a wnaethoch. 

Rheolau ynghylch cysylltu â’r Wefan 

Gallwch gysylltu â thudalen hafan y Wefan, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n deg ac yn gyfreithlon ac nad yw’n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno.  

Rhaid i chi beidio â sefydlu dolen mewn modd sy’n awgrymu unrhyw fath o gysylltiad neu gymeradwyaeth ar ein rhan ni lle nad oes un yn bodoli.  

Ni ddylech sefydlu dolen i’r Wefan ar unrhyw wefan nad yw’n eiddo i chi.  

Ni ddylid fframio’r Wefan ar unrhyw wefan arall, ac ni chewch greu dolen i unrhyw ran o’r Wefan ar wahân i’r hafan.  

Rydym yn cadw’r hawl i dynnu caniatâd cysylltu yn ôl heb rybudd.  

Os hoffech greu cysylltiad â chynnwys ar y Wefan neu wneud unrhyw ddefnydd ohono ar wahân i’r hyn a nodir uchod, yna cysylltwch â ni. 

Feirysau 

Nid yw Robertson yn gyfrifol am feirysau a rhaid i chi beidio â’u cyflwyno. 

Chi sy’n gyfrifol am ffurfweddu eich technoleg gwybodaeth, eich rhaglenni cyfrifiadurol a’ch llwyfan i gael mynediad i’n gwefan. Dylech ddefnyddio eich meddalwedd atal feirysau eich hun. 

Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio’r Wefan trwy gyflwyno feirysau, feirysau ceffylau Troea, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n dechnolegol niweidiol yn fwriadol.  

Ni ddylech ymosod ar y Wefan trwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth neu ymosodiad gwrthod gwasanaeth gwasgaredig. Trwy dramgwyddo yn erbyn y ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Bydd Robertson yn adrodd am unrhyw dramgwydd o’r fath i’r awdurdodau gorfodi’r gyfraith perthnasol a bydd Robertson yn cydweithredu â’r awdurdodau hynny trwy ddatgelu pwy ydych iddynt. Yn achos y fath dramgwydd, bydd eich hawl i ddefnyddio’r Wefan yn dod i ben ar unwaith. 

Ymwadiadau a chyfyngiad ar atebolrwydd  

Darperir y Wefan ar sail ‘fel y mae’ ac ‘fel sydd ar gael’ heb wneud unrhyw gynrychiolaeth na chymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath, boed yn ddatganedig neu’n ymhlyg, gan gynnwys (ymhlith eraill) gwarantau ymhlyg ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol, dim tremasu, cydweddoldeb, diogelwch a chywirdeb. 

I’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, ni fydd y Robertson Group yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol o gwbl (gan gynnwys – a hynny heb gyfyngiad – colli busnes, cyfle, data, elw) sy’n deillio o ddefnyddio’r Wefan neu mewn cysylltiad â hi. 

Nid yw Robertson Group yn gwarantu y bydd swyddogaethau’r Wefan yn ddi-dor neu heb wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro neu fod y Wefan neu’r gweinydd sy’n ei darparu yn rhydd o feirysau neu unrhyw beth arall a allai fod yn niweidiol neu’n ddinistriol. 

Ni fydd unrhyw beth yn y Telerau ac Amodau hyn yn cael ei ddehongli er mwyn eithrio neu gyfyngu ar atebolrwydd y Robertson Group am farwolaeth neu anaf personol o ganlyniad i esgeulustod y Robertson Group neu ei gyflogeion neu’i asiantau. 

Indemniad 

Rydych yn cytuno i indemnio a digolledu’r Robertson Group a’i weithwyr a’i asiantau o – ac yn erbyn – bob rhwymedigaeth, ffioedd cyfreithiol, iawndal, colledion, costau a threuliau eraill mewn perthynas ag unrhyw hawliadau neu gamau gweithredu a ddygir yn erbyn y Robertson Group sy’n deillio o unrhyw doriad gennych o’r Telerau ac Amodau hyn neu rwymedigaethau eraill sy’n deillio o’ch defnydd o’r Wefan hon. 

Diddymu 

Os penderfynir bod unrhyw ran o’r Telerau ac Amodau hyn yn annilys, yn anghyfreithlon neu’n amhosibl eu gorfodi am unrhyw reswm gan unrhyw lys awdurdodaeth gymwys, yna caiff y telerau neu amodau o’r fath eu diddymu a bydd y Telerau ac Amodau sy’n weddill yn goroesi ac yn parhau i fod mewn grym ac effaith lawn ac yn parhau i fod yn rhwymol ac yn orfodadwy. 

Cyfraith lywodraethu 

Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfraith yr Alban ac rydych trwy hyn yn ildio i awdurdodaeth unigryw llysoedd yr Alban. 

Ymholiadau  

Ar gyfer pob ymholiad, cysylltwch â ni: 

E-bost:  dpo@robertson.co.uk 

Ysgrifennwch at:  Data Protection Officer, Robertson Group, Robertson House, Castle Business Park, Stirling FK9 4TZ. 

Diweddarwyd y Telerau Defnyddio hyn ddiwethaf ar 14 Medi 2021. 

Scroll to Top