Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus yn parhau ar gyfer Glanfa’r Iwerydd, Butetown, Caerdydd

Ar ôl lansio’r ymgynghoriad cyhoeddus mewn perthynas â chynlluniau Cyngor Caerdydd ar gyfer trawsnewid Glanfa’r Iwerydd, Butetown, Caerdydd bydd cyfres o weminarau’n cael eu cynnal fis nesaf i roi mwy o wybodaeth i drigolion a busnesau lleol am y cynigion ar gyfer Cam 1 y datblygiad. 

Mae’r tîm, sy’n cynnwys y Consortiwm y tu ôl i Arena newydd Caerdydd – Robertson, Live Nation a Oak View Group – a Chyngor Dinas Caerdydd, yn awyddus i rannu’r cynigion hyd yma gan gasglu barn y gymuned leol. 

Bydd Glanfa’r Iwerydd yn dod yn gyrchfan newydd yng Nghaerdydd gyda sgwâr cyhoeddus ac arena newydd, canolfan ddiwylliannol newydd, cyfleusterau manwerthu a hamdden, gwestai, maes parcio aml-lawr a chartrefi newydd.  

Mae gwahoddiadau wedi’u rhoi i’r rhai sydd wedi cofrestru i gael mwy o wybodaeth am Lanfa’r Iwerydd, Butetown ond mae’r gweminarau’n agored i unrhyw sydd am fod yn bresennol. 

Gellir dod o hyd i wybodaeth am sut i ymuno â’r gweminarau yn www.glanfariweryddcaerdydd.co.uk, a bydd recordiadau ar gael ar y wefan yn dilyn y digwyddiadau i’r rhai na allant fod yn bresennol. 

6 Gorffennaf 2021 am 5:30pm – i glywed mwy am weledigaeth yr Uwchgynllun ar gyfer Glanfa’r Iwerydd, Butetown. 

14 Gorffennaf 2021 am 5:30pm – pryd y byddwn yn rhannu’r cysyniad dylunio y tu ôl i Arena Caerdydd a’r gwesty arfaethedig.    

20 Gorffennaf 2021 am 5:30pm – i glywed gan Live Nation am sut y bydd yr arena’n cael ei gweithredu a’i rheoli.   

Yn dilyn y cyfnod ymgynghori â’r cyhoedd, caiff y cais cynllunio ei gyflwyno ddiwedd yr hydref ac os caiff ei gymeradwyo, bydd y gwaith o adeiladu’r arena a’r gwesty newydd yn dechrau yng Ngwanwyn 2022. 

Scroll to Top