Dyddiadau ymgynghori – Gorffennaf 2021

Dros yr wythnosau nesaf mae’r Cyngor a’r Consortiwm y tu ôl i Arena newydd Caerdydd, Robertson, Live Nation ac Oak View Group yn cynnal cyfres o weminarau i roi mwy o wybodaeth am Uwchgynllun a Cham 1 y datblygiad – Arena Caerdydd a gwesty.

Bydd pob un o’r sesiynau yn cynnwys cyflwyniadau a bydd cynrychiolwyr o’r Cyngor a’r Consortiwm ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Rwy’n gobeithio yn fawr iawn y gallwch ymuno a ni ar:

6 Gorffennaf 2021 am 5:30pm – i glywed mwy am weledigaeth yr Uwchgynllun ar gyfer Glanfa’r Iwerydd, Butetown. Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod.

14 Gorffennaf 2021 am 5:30pm – pryd y byddwn yn rhannu’r cysyniad dylunio y tu ôl i Arena Caerdydd a’r gwesty arfaethedig. Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod. 

20 Gorffennaf 2021 am 5:30pm – i glywed gan Live Nation am sut y bydd yr arena’n cael ei gweithredu a’i rheoli. Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod. 

Bydd y dolenni uchod yn mynd â chi’n uniongyrchol i’r cyfarfod sy’n cael ei gynnal drwy Microsoft Teams.

Rydym yn gobeithio y gallwch ymuno â ni ar y nosweithiau uchod, ond os na allwch fod yn bresennol, byddwch yn gallu cael gafael ar recordiadau o’r gweminarau a fydd yn cael eu cynnal ar ein gwefan https://atlanticwharfcardiff.co.uk/ yn dilyn pob sesiwn.

Scroll to Top