Ymgynghoriad Cyhoeddus Glanfa’r Iwerydd yn Parhau gyda Digwyddiadau Cyhoeddus yng Nghanol Dinas Caerdydd a’r ardaloedd cyfagos

Mae’r consortiwm y tu ôl i Lanfa’r Iwerydd yn cynnal tri digwyddiad cyhoeddus ym mis Medi cyn cyflwyno ei gais cynllunio i gwblhau’r gwesty ac arena newydd fel rhan o gynlluniau Cyngor Caerdydd i drawsnewid Glanfa’r Iwerydd, Butetown, Caerdydd.

Bydd Consortiwm Glanfa’r Iwerydd, sy’n cynnwys Robertson fel datblygwr a Live Nation ac Oak View Group fel gweithredwr, yn holi barn y gymuned leol a’r gymuned ehangach.

Bydd Glanfa’r Iwerydd yn dod yn gyrchfan newydd yng Nghaerdydd gyda sgwâr cyhoeddus ac arena newydd, canolfan ddiwylliannol newydd, cyfleusterau manwerthu a hamdden, gwestai, maes parcio aml-lawr a chartrefi newydd. 

Wrth siarad ar ran y consortiwm, dywedodd Nick Harris, Cyfarwyddwr Eiddo Gweithredol Robertson Group:  “Mae barn y gymuned yn bwysig iawn i’r broses ymgynghori.   Bydd y datblygiad newydd arfaethedig yn dod yn rhan annatod o arlwy ehangach Caerdydd ac rydym yn awyddus i drigolion lleol a’r gymuned deimlo eu bod yn rhan o’r broses. 

“Ym mis Mehefin, oherwydd cyfyngiadau Covid, cynhaliwyd cyfres o weminarau ac fe’n calonogwyd yn fawr gan nifer y bobl a ymunodd â ni.   Rydym nawr yn edrych ymlaen at rannu’r cynlluniau arfaethedig yn bersonol.”

Dydd Iau 9 Medi, hanner dydd – 7:30pm              Pafiliwn Butetown, Dumballs Rd, Caerdydd

Dydd Gwener 10 Medi, hanner dydd – 7:30pm  Canolfan y Ddraig Goch, Hemingway Rd, Caerdydd

Dydd Sadwrn 11 Medi, 10 am – 5 pm                    Canolfan Dewi Sant, Stryd y Bont, Caerdydd

Bydd aelodau’r tîm dylunio yn ymuno â’r consortiwm yn ystod yr ymgynghoriadau agored pan fydd y cynigion ar gyfer yr arena, y gwesty a’r uwchgynllun ehangach yn cael eu harddangos ochr yn ochr â model 3D o cynigion Glanfa’r Iwerydd.

Rhagwelir y bydd cais cynllunio’n cael ei gyflwyno yn Hydref, ac os rhoddir caniatâd i adeiladu’r arena a’r gwesty newydd, bydd y gwaith yn dechrau yng Ngwanwyn 2022.

Bydd y prosiect trawsnewidiol yn creu cyrchfan nodedig i ymwelwyr yn y DU gyda’r potensial o ddod â dros 1 miliwn o ymwelwyr i’r ddinas bob blwyddyn, gan arwain at greu miloedd o swyddi a chartrefi newydd.

Gan weithio gyda gwasanaethau I Mewn i Waith y Cyngor, bydd y consortiwm yn sicrhau bod cyfleoedd gwaith a hyfforddiant yn cael eu creu yn ystod camau datblygu a gweithredu’r Arena a’r gwesty, gan roi pwyslais ar greu cyfleoedd gwaith i bobl leol.”

Scroll to Top