Y Pwyllgor Cynllunio yn cymeradwyo cynlluniau ar gyfer arena newydd ac Uwchgynllun ehangach Glanfa’r Iwerydd.
Caerdydd, 16 Mawrth 2022: Heddiw, croesawodd y consortiwm y tu ôl i’r arena newydd ar gyfer Caerdydd benderfyniad y Pwyllgor Cynllunio i gymeradwyo’r cynlluniau ar gyfer Cam Un Glanfa’r Iwerydd, Butetown.
Cam Un o’r gwaith o adfywio Glanfa’r Iwerydd, sy’n filiynau o bunnoedd, yw’r arena newydd gyda chapasiti o 17,000, gwesty a thirlunio cysylltiedig.
Bydd y consortiwm, sef y partneriaid cyflawni a ddewiswyd gan y Cyngor, yn awr yn bwrw ymlaen i wireddu’r weledigaeth ar gyfer yr Arena. Gyda Robertson Group yn ddatblygwyr a Live Nation a’r Oak View Group fel gweithredwyr ar y cyd, bydd yr arena yn cynnig cyfle i Gaerdydd gynnal rhai o’r enwau mwyaf yn y diwydiant adloniant tra’n denu miliynau o ymwelwyr i’r ddinas a chynhyrchu gweithgarwch economaidd lleol ehangach ar gyfer gwestai, bwytai a bariau.
Disgwylir i’r gwaith o greu 1,000 o swyddi pan fydd wedi’i gwblhau, ac mae disgwyl i’r gwaith o adeiladu’r arena newydd ddechrau yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd Elliot Robertson, Prif Swyddog Gweithredol Robertson: “Mae penderfyniad yr Adran Gynllunio i roi caniatâd cynllunio ar gyfer Cam Un y datblygiad yn sail i ymrwymiad y Cyngor i adfywio Glanfa’r Iwerydd yn gyrchfan ymwelwyr fywiog ym Mae Caerdydd. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’n partneriaid i greu cyrchfan newydd a fydd nid yn unig yn rhoi bywyd newydd i ardal y Bae ond a fydd yn cefnogi busnesau lleol ac yn creu cyfleoedd cyflogaeth newydd ledled y ddinas.”
Dywedodd Graham Walters, Prif Swyddog Gweithredu Live Nation (Lleoliadau’r DU): “Rydym wrth ein bodd gyda’r penderfyniad hwn, un o’r datblygiadau mwyaf arwyddocaol a nodedig yn y rhanbarth ers rhai blynyddoedd, ac edrychwn ymlaen at gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer arena newydd gyda’n partneriaid a Chyngor Caerdydd. Bydd arena o’r radd flaenaf, gydag enw da yn fyd-eang am ddiwylliant, yn trawsnewid Glanfa’r Iwerydd ar gyfer ymwelwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol â Chaerdydd, yn ogystal â hwyluso creu swyddi a thwf economaidd yn y rhanbarth.
Dywedodd Mark Donnelly, COO, OVG: “Mae’n gyffrous bod y cynlluniau ar gyfer arena newydd yng Nglanfa’r Iwerydd wedi cael eu cymeradwyo gan y Cyngor. Rydym nawr yn edrych ymlaen at gydweithio â’n partneriaid a’r gymuned leol i roi’r arena haen uchaf y maent yn ei haeddu i Gaerdydd a Chymru.”
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: “Bydd yr arena dan do newydd yn un o brif atyniadau ymwelwyr y DU ac yn gweithredu fel catalydd ar gyfer buddsoddiad pellach ym Mae Caerdydd. Bydd y manteision ariannol a ddaw yn ei sgil i Butetown a’r ardal ehangach yn sylweddol gyda’r angen am hyd at 2,000 o swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu a bydd 1,000 o swyddi eraill yn cael eu creu ar ôl cyflawni uwchgynllun Glanfa’r Iwerydd.
“Drwy uwchgynllun Glanfa’r Iwerydd, gwneir gwelliannau sylweddol i’r tir cyhoeddus ac i gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus i’r Bae. Ni ellir pwysleisio digon pwysigrwydd yr arena newydd wrth gychwyn cam nesaf y gwaith adfywio ym Mae Caerdydd.
Mae penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio heddiw yn dod â ni’n agosach at gyflawni arena dan do newydd a allai agor ei drysau erbyn 2025.”
Roedd Cam Un y datblygiad yn rhan o gais cynllunio hybrid a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2021 ac a gymeradwywyd gan Bwyllgor Cynllunio Caerdydd, yn unol â’r argymhellion a nodir yn adroddiad y swyddog.
Bydd y cynlluniau ar gyfer yr uwchgynllun ehangach, sydd hefyd wedi’u cymeradwyo gan y Pwyllgor Cynllunio, yn cael eu datblygu ymhellach er mwyn gallu cyflwyno ceisiadau manwl ar gyfer hyd at 890 o anheddau preswyl; 1090 o welyau gwesty; 19,500 metr sgwâr o arwynebedd llawr cyflogaeth (swyddfeydd); 27,500 metr sgwâr o arwynebedd llawr hamdden; 12,310 metr sgwâr o arwynebedd llawr manwerthu ochr yn ochr â thirlunio, draenio, parcio beiciau a cheir cysylltiedig a seilwaith trafnidiaeth arall.
Mae’r arena a’r uwchgynllun ehangach yn cyd-fynd â dyheadau niwtral Cyngor Caerdydd ar gyfer yr hinsawdd yn 2030, gyda strategaethau ynni wedi’u hymgorffori yn elfennau dylunio a gweithredol yr ailddatblygiad a osodwyd i gyflawni swyddi gweithredol sy’n niwtral o ran yr hinsawdd erbyn 2030.