Caerdydd, 25 Tachwedd: Cyflwynwyd cais cynllunio hybrid ar gyfer adfywio Glanfa’r Iwerydd gan y consortiwm a gyhoeddwyd yn gynharach eleni fel y cynigydd llwyddiannus i fod yn bartneriaid cyflawni i’r Cyngor ar gyfer Cam Un o adfywiad Butetown, Caerdydd, sydd werth miliynau o bunnoedd.
Bydd Cam Un yr uwchgynllun yn darparu arena newydd â chapasiti o 17,000, gwesty a pharcio cysylltiedig. Mae’r arena, a fydd yn creu 1,000 o swyddi pan fydd wedi’i chwblhau, yn cael ei datblygu gan Robertson Group a bydd yn cael ei gweithredu gan Live Nation ac Oak View Group.
Mae’r cais hybrid yn ceisio caniatâd cynllunio llawn ar gyfer Cam Un a chaniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer yr uwchgynllun defnydd cymysg ehangach, a fydd yn arwain at adfywio’r ardal.
Dywedodd Nick Harris, cyfarwyddwr eiddo gweithredol grŵp Robertson: “Yn gynharach eleni, cynhaliwyd digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus ar y cynlluniau arfaethedig ac fe’n calonogwyd yn fawr gan yr adborth cadarnhaol a gafwyd gan y gymuned leol.
“Mae’r cais cynllunio yn ystyried y sylwadau a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad gan arwain at ostyngiad ym maint yr uwchgynllun ac i’w ddwysder adeiladu cyfunol.
“Mae cyflwyno cais cynllunio yn mynd â ni, gyda’n partneriaid a’r Cyngor, gam yn nes at gyflawni dyheadau’r Cyngor i greu cyrchfan fywiog i ymwelwyr ym Mae Caerdydd.”
Bydd yr arena newydd yn cadarnhau safle Bae Caerdydd fel atyniad ymwelwyr o’r radd flaenaf, gan ddod â digwyddiadau gorau’r byd i’r ddinas. Ar hyn o bryd, nid oes gan Gymru, sydd wedi gorgyflawni gyda’i hallforion diwylliannol eiconig ers cannoedd o flynyddoedd, arena dan do fodern sy’n gallu cynnal digwyddiadau mawr, fel dinasoedd mawr eraill yn y DU.
Wedi’i chynllunio i croesawu’r enwau mwyaf yn y diwydiant cerddoriaeth, sioeau teuluol, comedi a digwyddiadau chwaraeon, bydd yr Arena’n dod â chynnydd sylweddol i farchnad adloniant byw Caerdydd, gan ddenu miliynau o ymwelwyr i’r ddinas a rhoi hwb i weithgarwch economaidd gwestai, bwytai a bariau lleol.
“Fel arweinydd mewn adloniant byw, ein nod yw darparu math newydd o arena mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Caerdydd a fydd yn rhoi’r gymuned leol a’r ddinas wrth wraidd ein huchelgais” meddai Prif Swyddog Gweithredol – Lleoliadau DU Live Nation, Graham Walters. “Gydag arena a gydnabyddir yn fyd-eang yn ganolbwynt ar gyfer adloniant a diwylliant, ein nod yw cryfhau safle Caerdydd fel cyrchfan bwysig i sioeau teithiol, sy’n gallu cynnal digwyddiadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol rhagorol a pharhau â thwf Caerdydd fel dinas gerddoriaeth flaenllaw.”
Dywedodd Jessica Koravos, Cadeirydd OVG International: “Rydym yn gweld cyfle enfawr i ddod ag arena o’r radd flaenaf i Gaerdydd – lleoliad a fydd yn croesawu’r gorau mewn adloniant byw, gan greu miloedd o swyddi a denu miliynau o ymwelwyr i’r ddinas.
“Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Cyngor a’r gymuned i gyflawni’r cynllun cyffrous ac uchelgeisiol hwn.”
Mae datblygu’r arena a’r uwchgynllun ehangach yn ystyried dyheadau hinsawdd-niwtral Cyngor Caerdydd ar gyfer 2030, gyda’r strategaeth ynni wedi’i chynllunio i sicrhau sefyllfa hinsawdd-niwtral weithredol erbyn 2030.
Rhagwelir, os rhoddir caniatâd cynllunio, y bydd y gwaith o adeiladu’r arena newydd yn dechrau yn hydref 2022.