Penodi Consortiwm yn Ymgeisydd Llwyddiannus ar gyfer Arena Dan Do newydd Caerdydd

Mae cael Arena Dan Do newydd gyda lle i 15,000 o bobl yng Nglanfa’r Iwerydd wedi cymryd cam arall ymlaen heddiw, a hynny ar ôl cwblhau’r Achos Busnes Llawn ac adroddiad i Gabinet Cyngor Caerdydd i benodi’r cynigydd llwyddiannus sef consortiwm Live Nation, Oak View Group fel gweithredwyr a Robertson fel datblygwr.

Bydd yr arena dan do newydd yn creu cyrchfan o’r radd flaenaf i ymwelwyr yn y DU, a allai ddenu miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn a denu dros £100m y flwyddyn i’r economi leol.

Mae’r adroddiad i’r cabinet yn gofyn iddynt gymeradwyo’r Achos Busnes Llawn, y Cytundeb Datblygu a dogfennau cyfreithiol cysylltiedig i godi’r  arena dan do newydd ac i benodi’r Consortiwm yn ffurfiol fel y cynigydd llwyddiannus.

Ystyrir yr arena dan do newydd fel y darn olaf coll yn seilwaith y ddinas sydd ei angen i gadarnhau enw da rhyngwladol Caerdydd fel dinas y digwyddiadau mawr. Mae wedi bod yn uchelgais a dyhead ers amser gan wahanol weinyddiaethau’r Cyngor, sydd wedi clustnodi cyllidebau ers 2006 i helpu i wireddu cynnig a arweiniwyd gan y sector breifat, a’i gefnogi gan y Cyngor.

Mae’r Achos Busnes Llawn ar gyfer y prosiect o fewn ‘amlen fforddiadwyedd’ ar gyfer y prosiect a nodwyd ar ddechrau’r broses gaffael.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: Mae cymuned fusnes y ddinas wedi cefnogi’r prosiect ers blynyddoedd lawer, yn enwedig y sector lletygarwch. Bydd yr arena dan do newydd yn atyniad ymwelwyr o’r radd flaenaf yn y DU a bydd y manteision ariannol a ddaw yn ei sgil i Butetown a’r ardal ehangach yn sylweddol – gyda hyd at 2,000 o swyddi’n cael eu creu yn ystod y cyfnod adeiladu a 1,000 o swyddi eraill ar waith pan fydd uwchgynllun Glanfa’r Iwerydd yn cael ei wireddu.

“Drwy gyfrwng uwchgynllun Glanfa’r Iwerydd, gwneir gwelliannau sylweddol i’r ardal gyhoeddus ac i gysylltiadau trafnidiaeth, a does dim dwywaith y bydd adfywio’r safle hwn yn rhoi hwb i gam nesaf yr adfywio ym Mae Caerdydd.

“Fel y gwnawn bob amser, rydym yn gweithio law yn llaw â’r sector preifat i gyflawni hyn.  Nod y Cyngor erioed oedd darparu arena o’r radd flaenaf ar sail fasnachol.  Mae’r Cyngor wedi cytuno i ddod o hyd i’r cyllid, a fydd yn cael ei adennill drwy brydles hirdymor gyda’r gweithredwyr, wedi’i warantu gan eu rhiant-gwmnïau.”

Mae’r pandemig wedi golygu bod cwblhau’r Achos Busnes Llawn wedi cymryd ychydig fisoedd yn hirach na’r hyn oedd wedi’i ddisgwyl yn wreiddiol. Rydym yn rhagweld y bydd yr arena dan do ar agor i gwsmeriaid erbyn diwedd 2024 yn hytrach nag yn ystod gwanwyn 2024.

Ychwanegodd y Cynghorydd Goodway: “Rydym wedi bod yn ceisio symud y prosiect yn ei flaen cyn gynted ag y gallwn, er gwaethaf y pandemig, ac mae cryn dipyn o waith ychwanegol wedi gorfod cael ei wneud i gwblhau’r Achos Busnes Llawn i liniaru’r problemau sydd wedi codi o’r pandemig ac effeithiau’r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

“Mae’r datblygwr wedi dechrau ymgynghori â busnesau a thrigolion lleol fel rhan o’r gwaith y mae angen iddynt ei wneud cyn cyflwyno cais cynllunio.  Bydd y cais cynllunio ar gyfer yr arena’n cynnwys yr uwchgynllun ehangach ar gyfer yr ardal, gyda nifer o newidiadau i gynlluniau presennol y ffyrdd.  Mae trigolion lleol wedi codi pryderon cynnar ynghylch cau Ffordd y Sgwner er enghraifft, y mae’r Cyngor wedi’u hystyried ac a fydd yn ceisio’u lliniaru.

Dywedodd Nick Harris, Cyfarwyddwr Eiddo Gweithredol Grŵp Robertson: “Rydym yn croesawu’r adroddiad sy’n cadarnhau ein statws, ochr yn ochr â’n partneriaid, i gyflawni cam un Glanfa’r Iwerydd, Uwchgynllun Butetown.   Mae hwn yn gam sylweddol tuag at gyflawni dyheadau’r Cyngor i greu cyrchfan fywiog i ymwelwyr ym Mae Caerdydd.

“Cawsom ein calonogi’n fawr gan yr adborth cadarnhaol a gafwyd yn ystod ein hymgynghoriadau cyhoeddus yn ddiweddar, ac edrychwn ymlaen at gydweithio gyda’n partneriaid a’r Cyngor i baratoi’r cais cynllunio llawn a fydd yn cael ei gyflwyno ym mis Hydref.”

Dywedodd Graham Walters, Prif Swyddog Gweithredu Live Nation (Lleoliadau’r DU): “Rydym wedi ymrwymo i ddarparu arena o’r radd flaenaf gyda Chyngor Caerdydd a’n partneriaid consortiwm OVG a Robertson, a fydd yn cynnig y budd mwyaf i’r gymuned leol a’r rhanbarth ehangach i greu un o brif gyrchfannau a lleoliadau diwylliannol  Cymru. Mae gan Live Nation wybodaeth leol uniongyrchol sylweddol ar ôl gweithio yng Nghaerdydd ers dros ddau ddegawd a byddwn yn cadarnhau safle’r arena newydd fel canolfan ganolog ar gyfer adloniant byw gyda digwyddiadau o fri rhyngwladol.”

Dywedodd Tim Leiweke, Prif Swyddog Gweithredol a’r cyd-sylfaenydd: “Rwy’n falch iawn bod OVG yn datblygu lleoliad o safon uwch yn rhai o ddinasoedd mwyaf y byd, ac rwy’n falch iawn bod Caerdydd yn ymuno â’r rhestr honno. “Rydym yn llawn cyffro o gael gweithio gyda’n partneriaid Live Nation a Robertson i gynnig arena o’r radd flaenaf sy’n gallu dod â digwyddiadau gorau’r byd i Gaerdydd.”

Bydd y Cytundeb Darparu yn cael ei lofnodi gyda Live Nation, Oak View Group a Chonsortiwm Robertson unwaith y byddan nhw a’r Cyngor wedi bodloni nifer o amodau gan gynnwys sicrhau caniatâd cynllunio. Y llinell amser ddiwygiedig ar gyfer codi’r Arena yw:

  • Medi 2021: Penderfyniad y Cabinet ar yr Achos Busnes Llawn a’r Cytundeb Darparu;
  • Hydref 2021:  Cyhoeddi hysbysiad dyfarnu contract a’r datblygwr i gyflwyno cais cynllunio;
  • Chwefror 2022 Penderfyniad cynllunio a gwaith cychwynnol ar y safle i ddechrau;
  • Mawrth 2022: Contract wedi’i lofnodi;
  • Ebrill 2022 Y gwaith adeiladu’n dechrau;
  • Yr Arena’n agor ddiwedd 2024.
Scroll to Top