Hafan

Dyfodol newydd i Lanfa’r Iwerydd Caerdydd

Mae gan Gyngor Caerdydd gynllun uchelgeisiol i ailfywiogi Glanfa’r Iwerydd yn Butetown. Rydym yn datgloi ei photensial i greu cyrchfan i ymwelwyr sydd gyda’r gorau yn y DU ac amgylchedd bywiog a chynaliadwy sy’n dod â mwynhad, cyflogaeth a manteision economaidd yn lleol.

Wrth wraidd yr uwchgynllun mae arena o’r radd flaenaf â chapasiti o 15,000 ar gyfer cyngherddau byw, sioeau teuluol, comedi, chwaraeon a mwy. Ar draws y safle 30-erw, ein gweledigaeth yw creu mannau awyr agored o ansawdd uchel, adeiladu cartrefi newydd, a lletygarwch, hamdden a swyddfeydd. Bydd ein cynlluniau ar gyfer llwybrau cerdded a beicio newydd, a chysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwell, yn gwneud Glanfa’r Iwerydd yn lle hawdd i’w gyrraedd a symud o’i gwmpas.

Rydym wedi creu’r wefan hon ar gyfer ein cymunedau a’n rhanddeiliaid lleol, fel y gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynigion a darganfod sut, ble a phryd y gallwch gymryd rhan mewn ymgynghoriadau cyhoeddus.

Uwchgynllun Glanfa’r Iwerydd Butetown, Caerdydd: trosolwg

Y bwriad yw ymestyn yr ardal gyhoeddus o Lannau Bae Caerdydd i Lanfa’r Iwerydd, gan greu cyrchfan ddinesig newydd lle mae pobl yn dod i weithio, cael hwyl ac ymlacio.

  • Arena digwyddiadau dan do â chapasiti o 15,000.
  • Datblygiad defnydd-cymysg modern, gan gynnwys bwyd a hamdden, yn cymryd lle Canolfan y Ddraig Goch.
  • Canolfan ddiwylliannol newydd sy’n ymgorffori gofod cynhyrchu Canolfan Mileniwm Cymru, Oriel Gelf Genedlaethol bosib, ac atyniad ymwelwyr ‘I’r Bur Hoff Bau’.
  • Sgwâr cyhoeddus wedi’i dirlunio gyda gofod digwyddiadau, mannau eistedd a gweithgareddau am ddim i blant.
  • Travelodge newydd.
  • Gwesty pedair seren â 150 ystafell wely.
  • 150,000 troedfedd sgwâr o ofod swyddfa.
  • Hyd at 1,100 o gartrefi newydd.
  • Canolfan drafnidiaeth newydd sy’n cysylltu’r llinell metro rhwng y Bae, y Ddinas a gorsaf newydd Parc Llaneirwg, a chysylltiadau gwych i gerddwyr a thrafnidiaeth, gan gynnwys bysus, ceir, beiciau a sgwteri.

Cyrchfan newydd i ymwelwyr ym Mae Caerdydd: dod â’r cynllun yn fyw

Mae uwchgynllun Glanfa’r Iwerydd yn cynnwys pedwar cam datblygu, a bydd yn cymryd tua saith mlynedd i’w gwblhau. Mae barn ein cymunedau a’n rhanddeiliaid yn hanfodol i lunio datblygiadau a dyluniadau arfaethedig, felly rydym yn awyddus i glywed gennych drwy ymgynghoriadau cyhoeddus sydd ar y gweill cyn i’r cais cynllunio gael ei gyflwyno yn hydref 2021.

Cam 1:   Mae’r gwaith adeiladu yn dechrau ar yr arena a’r gwesty yng ngwanwyn 2022. Caiff ei gwblhau mewn pryd i’r drysau agor yn 2025. Mae’r cam hwn hefyd yn cynnwys adeiladu maes parcio aml-lawr i gymryd lle’r llefydd parcio sy’n cael eu colli.

Cam 2:   Bydd busnesau yng Nghanolfan y Ddraig Goch yn cael eu hadleoli fel y gall gwaith ddechrau ar gyfleuster pwrpasol i ddarparu hamdden, bwyd a diod. Mae’r cynlluniau’n cynnwys canolfan ddiwylliannol newydd sy’n ymgorffori gofod cynhyrchu Canolfan Mileniwm Cymru, Oriel Gelf Genedlaethol bosib, ac atyniad ymwelwyr ‘I’r Bur Hoff Bau’.

Cam 3: Gofod swyddfa 150,000 m2 newydd ynghyd â gwesty pedair seren â 150 gwely.

Cam 4: Cymdogaeth newydd sy’n darparu cartrefi newydd a’r potensial ar gyfer gofod manwerthu a swyddfa – mae’r cam hwn yn dibynnu ar adleoli Neuadd y Sir i adeilad pwrpasol newydd.

Y broses gynllunio

Y dyddiadau allweddol ar gyfer cynllunio yw:

Gwanwyn/haf 2021: Ymgynghoriadau cyhoeddus yn dechrau, gan gynnwys gweminarau ar-lein yn ystod y cyfyngiadau Covid-19

Haf 2021: Ymgynghoriad cyn gwneud cais

Hydref 2021: Cyflwyno cais cynllunio

Scroll to Top