Gwaith Hwyluso Arena Caerdydd – Gwaith Ffordd Garthorne

Fel rhan o ddatblygiad parhaus yr Arena newydd, hoƯem roi gwybod i chi am waith hwyluso telemateg sydd ar y gweill ar Ffordd Garthorne. Mae’r gwaith hwn yn rhan hanfodol o’r ymrwymiad i ddarparu seilwaith modern ac eƯeithlon i gefnogi’r Arena newydd a’r gymuned gyfagos.

Beth Sy’n Digwydd

Bydd y gwaith hwn yn cynnwys cloddio rhannau o Ffordd Garthorne a gosod systemau telemateg uwch, sy’n cynnwys technoleg rheoli traƯig deallus i helpu i wella diogelwch ar y Ưyrdd, lleddfu tagfeydd, a chefnogi opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy o amgylch ardal yr Arena, ac ar draws y Ddinas ehangach.

Pryd

Bwriedir i’r gwaith arfaethedig ddechrau ddiwedd mis Ebrill a disgwylir iddo gael ei gwblhau o fewn pythefnos, yn amodol ar y tywydd ac amodau gweithredu.

Beth i’w Ddisgwyl

  • Rheolaeth traƯig dros dro – bydd yn ei le yn ystod y gwaith cloddio ar y llwybrau pibelli o fewn Ffordd Garthorne er mwyn sicrhau diogelwch y gweithlu, cerddwyr
    a defnyddwyr y Ưyrdd. Bydd y gwaith rheoli traƯig yn cael ei wneud fesul cam (ni fydd ardaloedd yn cael eu cyflawni ar yr un pryd) i leihau eƯaith a sicrhau bod
    mynediad ac allanfeydd yn cael eu cynnal bob amser.
  • Anelwn at darfu cyn lleied â phosibl a byddwn yn sicrhau bod mynediad i gartrefi a mannau parcio ceir yn cael eu cynnal drwy gydol y gwaith.
  • Fel arfer bydd yr oriau gwaith rhwng 8:00 AM – 6:00 PM, o ddydd Llun i ddyddGwener.

Gwerthfawrogwn y gall y gweithgareddau angenrheidiol hyn ar brydiau darfu rhywfaint a weithgareddau dyddiol neu drefniadau arferol, ac rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth wrth iddynt gael eu cwblhau. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw bryderon neu sylwadau, mae croeso i chi gysylltu â Provectus ar 01902 936165 neu drwy e-bost ar talktous@provectusgroup.com.

Scroll to Top