Mae cynnydd sylweddol wedi’i wneud ar ein rhaglen gwaith galluogi, gydag ardal ganolog y safle wedi’i throsglwyddo o’n rheolaeth ni i brif gontractwr adeiladu’r Arena erbyn hyn. Mae cyfrifoldeb am reoli unrhyw effeithiau amgylcheddol o’r gwaith yn yr ardal hon wedi’i drosglwyddo hefyd.
Paratoadau Sylfeini’r Arena
Ardal y Gogledd (Gweler Diagram: Ardal 1)
Mae gwaith paratoi sylfeini yng ngogledd y safle ar y gweill, gan gynnwys cwblhau ffos gwasanaethau cyfleustodau lle mae cyfleustodau a gwasanaethau wedi’u dargyfeirio a’u gosod. Mae gweddill y gwaith hwn yn cynnwys dychwelyd yr ardal i’r lefelau tir dylunio gofynnol yn barod ar gyfer adeiladu.
Bydd deunyddiau sydd wedi’u cloddio a’u casglu ynghyd dros dro yn yr ardal hon yn cael eu hasesu, a bydd unrhyw beth y gellir ei ailddefnyddio yn cael ei gadw ar y safle i’w ddefnyddio mewn ardaloedd eraill. Bydd unrhyw beth dros ben yn cael ei symud o’r safle ar ffurf gwastraff.
Mae’r gwaith archwilio pentyrrau wedi’i raglennu i ddigwydd mewn dau gam. Mae archwilio pentyrrau yn broses lle mae’r ddaear yn cael ei archwilio o dan yr wyneb i asesu ei uniondeb cyn i’r gwaith adeiladu sylfeini gael ei wneud. Mae Cam 1 wedi’i gwblhau a, chyn y gallai Cam 2 ddechrau, roedd angen adleoli cyfleustodau a gwasanaethau tanddaearol yn gyntaf. Mae’r gwaith adleoli wedi’i gwblhau erbyn hyn, felly mae’n bosibl ymgymryd â’r gwaith archwilio pentyrrau sy’n weddill. Disgwylir i’r gwaith archwilio pentyrrau bas ddechrau ar 11 Awst, ac mae gwaith archwilio pentyrrau dwfn wedi’i drefnu ar gyfer 4 Medi.
Ardal y Gogledd-orllewin (Gweler Diagram: Ardal 2)
Mae gweithgareddau archwilio pentyrrau yn ymestyn i’r ardal hon ac mae gwaith paratoi ar y gweill. Mae’r dyddiadau ar gyfer hyn yr un fath ag ar gyfer Ardal 1, gyda gwaith archwilio pentyrrau bas wedi’i gynllunio ar gyfer yr wythnos sy’n dechrau 11 Awst ac archwilio pentyrrau dwfn wedi’i drefnu ar gyfer 4 Medi.
Gweithgareddau Dargyfeirio Gwasanaethau
Ardal y Gorllewin (Gweler Diagram: Ardal 3)
Mae gwaith ffos cyfleustodau a gwasanaethau yn yr ardal hon wedi’i gwblhau bellach. Mae gwaith yn parhau yn yr ardal i addasu lefel y ddaear i’r lefel ddylunio y cytunwyd arno, gan ddefnyddio deunyddiau addas sydd ar gael ar y safle.
Ardal y De-orllewin (Gweler Diagram: Ardal 4)
Yn yr ardal hon, rydym wedi bod yn gwneud gwaith cloddio dros dro i hwyluso gosod llinell garthffos fudr newydd. Pan fydd gosod y gwaith dros dro wedi’i gwblhau, bydd y garthffos fudr newydd yn cael ei hadeiladu.
Bydd y llinell garthffos newydd yn cysylltu â’r garthffos bresennol; mae’r pwynt cysylltu o fewn llwybr troed Rhodfa Lloyd George. Bydd y gwaith hwn yn gofyn am ardal waith ddiogel ac felly bydd yn cael ei amgáu gan ffensys am y cyfnod. Disgwylir i’r gwaith hwn ddechrau ar 26 Awst a bydd yn cymryd tua phedair wythnos i’w gwblhau.
Gwaith Gollyngfeydd (Gweler Diagram: Ardaloedd 5 a 6)
Mae’r pecyn hwn o waith wedi cynnwys gosod pibellau draenio dŵr wyneb newydd yng ngogledd a de’r safle sy’n rhedeg o’r gorllewin i’r dwyrain, gan gysylltu â doc Dwyreiniol Bute.
Oherwydd amgylchiadau annisgwyl, mae’r gwaith gollyngfeydd wedi cymryd mwy o amser na’r disgwyl i’w gwblhau, sydd wedi arwain at effaith hirach na’r disgwyl ar lwybr troed ochr y doc. Mae’r gwaith i’r cysylltiad gollyngfa tua’r Gogledd wedi’i gwblhau bellach, felly mae’r llwybr ar hyd ochr orllewinol y doc wedi ailagor (11 Awst). Mae rhywfaint o waith adfer i’w gwblhau o hyd, gan ddechrau ar 11 Awst, fodd bynnag, ni fydd angen i’r llwybr gau.
Bydd gostyngiad dros dro ar led y llwybr troed i gerddwyr ar gyfer y Gogledd a’r De nes bod y gwaith hwn wedi’i gwblhau, gan ddefnyddio ffensys priodol i hwyluso’r gwaith hwn ac i wahanu’r gweithgareddau hyn yn ddiogel oddi wrth y cyhoedd. Bydd hyn yn cael ei gwblhau erbyn canol mis Medi.
Gwaith i ddod / Ad hoc
Gwaredu Oddi Ar y Safle
Bydd angen tynnu unrhyw ddeunyddiau dros ben neu anaddas i’w hailddefnyddio oddi ar y safle ar ffurf gwastraff gan ddefnyddio lorïau tipio. Lle bynnag y bo modd, ein nod yw casglu deunyddiau ynghyd i gyfiawnhau diwrnod llawn o symudiadau cerbydau, gan leihau nifer y symudiadau cerbydau ar ac oddi ar y safle. Bydd yr holl lorïau sy’n symud ar ac oddi ar y safle ar gyfer y gweithgaredd hwn yn gyrru dros y golch olwynion i leihau trosglwyddiad mwd/malurion i’r rhwydwaith ffyrdd cyfagos. Yn ôl yr angen, bydd gwaith glanhau ffyrdd ychwanegol yn cael ei wneud.
Danfoniadau
Bydd danfoniadau peirianwaith, offer a deunyddiau yn parhau wrth i’r prosiect fynd rhagddo, ac rydym yn ymdrechu i dynnu’r holl gerbydau danfon oddi ar y briffordd gyhoeddus cyn gynted â phosibl i darfu cyn lleied â phosib.
Rydym yn gwerthfawrogi y gall y gweithgareddau angenrheidiol hyn achosi rhywfaint o darfu ar weithgareddau dyddiol neu arferion penodol, ac yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth wrth eu cwblhau. Er gwaethaf hyn, os oes gennych unrhyw bryderon neu sylwadau, mae croeso i chi gysylltu â Provectus ar 01902 936165 neu drwy e-bost i talktous@provectusgroup.com.
