Ateb eich cwestiynau
Rydym wedi llunio rhai cwestiynau cyffredin i roi mwy o wybodaeth i chi am uwchgynllun Glanfa’r Iwerydd Butetown
Cyffredinol |
Mae Cyngor Caerdydd yn arwain y prif gynllun adfywio ar gyfer Glanfa’r Iwerydd Butetown, ailddatblygiad 30 erw a fydd yn helpu i drawsnewid Bae Caerdydd yn atyniad ymwelwyr haen uchaf i bobl Cymru a ledled y DU.
Mewn partneriaeth â Live Nations Entertainment, Oak View Group a Robertson Group, mae’r Cyngor yn datblygu cynlluniau ar gyfer arena adloniant dan do gyda lle i 15,000 a fydd, os caiff ei chymeradwyo, yn cael ei chyflwyno yng ngham cyntaf y datblygiad.
Bu adfywiad Bae Caerdydd dri degawd yn ôl yn gymorth i sefydlu Caerdydd fel Prifddinas Ewropeaidd ddeinamig, a’r weledigaeth gyffrous hon yw cam nesaf yr ailddatblygiad hwnnw. Bydd safle Glanfa’r Iwerydd yn cynnig cysylltiad ffisegol cryf yn ôl i’r Basn Hirgrwn a Glannau Bae Caerdydd.
Bydd y prosiect yn creu lle bywiog sy’n groesawgar ac yn ddeniadol i ymwelwyr a thrigolion, yn creu miloedd o swyddi newydd ac yn darparu 1,100 o gartrefi newydd.
Mae ymgynghoriadau cyhoeddus yn dechrau yng ngwanwyn 2021 gyda’r bwriad o gyflwyno ceisiadau cynllunio ar gyfer yr uwchgynllun yn hydref 2021. Rydym yn rhagweld penderfyniad yn 2022. Os bydd y broses gynllunio’n llwyddiannus, bydd cam cyntaf y datblygiad, sy’n cynnwys yr arena, yn dechrau yn 2022.
Bydd yr arena dan do newydd yn gweithredu fel angor a fydd yn gatalydd i fuddsoddiad.
Bydd ailddatblygiad Glanfa’r Iwerydd Butetown yn ehangu’r hyn sydd gan Gaerdydd i’w gynnig i dwristiaid, ac yn rhoi digon o resymau i gymunedau lleol ymweld â’r ardal a’i mwynhau. Rydym yn creu lleoedd newydd i fwyta, siopa a dod o hyd i adloniant, a bydd mannau awyr agored gwych yn caniatáu i bobl ddod draw, cael crwydro ac ymlacio: mae’r sgwâr cyhoeddus yn cynnwys seddi, mannau gweithgareddau am ddim i blant a gofod digwyddiadau; ac mae llwybrau cerdded a llwybrau beicio yn cynnig llwybrau llyfn a hygyrch i annog mwy o ddewisiadau teithio llesol.
Mae’r uwchgynllun yn cynnwys prosiectau a fydd yn denu busnesau ac yn darparu miloedd o swyddi uniongyrchol ac anuniongyrchol yn ystod y gwaith adeiladu a wedi hynny. A thrwy gydol yr ailddatblygu rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd hyfforddiant a chyflogadwyedd i gymunedau lleol.
Unwaith y bydd lleoliadau ar waith, bydd yr ymwelwyr niferus a’r bobl sy’n gweithio yn yr ardal yn rhoi hwb i wariant lleol ac yn helpu i greu economi gynaliadwy sy’n gweithio i bobl leol.
Byddai’r uwchgynllun yn cael ei gyflwyno mewn pedwar cam. Os caiff cynlluniau eu cymeradwyo ar gyfer yr arena, bydd y gwaith adeiladu’n dechrau yn 2022.
Tra bod cyfyngiadau Covid-19 ar waith, mae cyfleoedd ar gyfer digwyddiadau i’r cyhoedd yn gyfyngedig. Yn y cyfamser rydym wedi cynllunio cyfres o weminarau fel y gall trigolion a chymunedau cyfagos ofyn a chael ateb i’w cwestiynau.
Gallwch hefyd lenwi ein holiadur – ar gyfer preswylwyr, ymwelwyr a busnesau – i’n helpu i lunio’r datblygiad.
Wrth i’r cyfyngiadau leddfu, byddwn yn bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer digwyddiadau galw heibio, gweithdai ac arddangosfeydd ymgynghori.
Fe gewch yr holl ddatblygiadau diweddaraf ar y wefan hon, ac opsiwn i gofrestru ar gyfer ein e-gylchlythyr. Gall preswylwyr hefyd gysylltu â ni drwy e-bost: info@atlanticwharfcardiff.co.uk
Y Lleoliad (Arena) |
Bydd Live Nation yn cyflawni’r prosiect mewn consortiwm gydag Oak View Group a Robertson Group fel datblygwyr. Y nod yw agor yr Arena yng Ngwanwyn 2025.
Bydd gan yr arena arfaethedig le ar gyfer hyd at 15,000 o bobl.
Er mai adloniant byw yw ein prif ffocws, bydd yr arena hefyd yn lleoliad amlbwrpas ac amlddefnydd yn darparu ar gyfer amrywiaeth eang o ddigwyddiadau fel sioeau teuluol, comedi a chwaraeon, cynadleddau a chyfarfodydd cymunedol.
Bydd rolau a chyfleoedd amser llawn a rhan-amser ar gael a bydd manylion yr holl swyddi gwag a sut i wneud cais yn cael eu cyhoeddi ar wefannau’r arena swyddogol a Glanfa’r Iwerydd.
Gydag amrywiaeth eang o sioeau a digwyddiadau, bydd yr arena’n gweithredu ar wahanol ddiwrnodau ac amseroedd fel perfformiadau prynhawn a gyda’r nos, gan gynnwys gwyliau banc a phenwythnosau.
Bydd gweithdrefnau rheoli digwyddiadau ar waith, gyda chyfathrebu â’r holl randdeiliaid allweddol a chymunedau lleol.
Trafnidiaeth a Theithio |
Bydd parcio’n cael ei gyfyngu i’r lefelau presennol. Mae’r uwchgynllun yn cynnwys maes parcio aml-lawr newydd a fyddai’n disodli’r parcio gwasgaredig presennol. Rydym hefyd yn bwriadu ymestyn y llinell metro ar draws Bae Caerdydd i Laneirwg a fydd yn darparu cyfleusterau parcio a theithio i ymwelwyr sy’n dewis gyrru i Gaerdydd.
Byddwn yn annog ymwelwyr i Lanfa’r Iwerydd, Butetown i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gymaint â phosibl. Bydd yr uwchgynllun newydd yn cyd-fynd â gwelliannau arfaethedig i’r rhwydwaith rheilffyrdd fel rhan o’r prosiect METRO a arweinir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cynlluniau’n cynnwys ymestyn y rheilffordd metro ar draws Bae Caerdydd i orsaf yn Llaneirwg gyda chyfleusterau parcio a theithio, a gwella llwybrau beicio a cherdded ar Rodfa Lloyd George ac ar draws y Bae.
Bydd yr uwchgynllun yn cyd-fynd â gwelliannau arfaethedig i’r rhwydwaith rheilffyrdd fel rhan o’r prosiect METRO a arweinir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cynlluniau’n cynnwys ymestyn y rheilffordd metro ar draws Bae Caerdydd i orsaf yn Llaneirwg gyda chyfleusterau parcio a theithio, a gwella llwybrau beicio a cherdded ar Rodfa Lloyd George ac ar draws y Bae.
Rydym yn cynnig bod canolfan a chyfnewidfa drafnidiaeth newydd yn cael eu hadeiladu ar safle Pierhead Street i ddarparu ar gyfer unrhyw wasanaethau tram-drên a bws newydd. Mae’r cynnig hefyd yn cynnwys pont newydd i gerddwyr dros yr A4232 i ddarparu cyswllt rhwng y gofod digwyddiadau newydd a’r ganolfan drafnidiaeth.
Gallai cynigion weld Rhodfa Lloyd George yn cael ei ailgynllunio gydag un lôn o draffig i’r naill gyfeiriad neu’r llall. Fel rhan o brosiect METRO dan arweiniad Llywodraeth Cymru, gellid creu rhodfa newydd wedi’i thirlunio yn cysylltu canol y ddinas â’r Bae, gyda chyfleoedd cyfyngedig ar gyfer datblygiad ar brif groesffyrdd ar hyd y ffordd. Bydd y Flourish hefyd yn cael ei ailgynllunio i leihau llif traffig yn yr ardal, gan wella’r cyfleusterau i gerdded rhwng yr harbwr mewnol a Glanfa’r Iwerydd.
Bydd ffocws cryf ar hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus i fynd a dod o Lanfa’r Iwerydd, a dim ond ychydig funudau o gerdded o’r ardal fydd yr hybiau trafnidiaeth newydd arfaethedig.
Byddwn yn annog pobl yn barhaus i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus fel ffordd ddiogel ac effeithlon o gyrraedd yr arena. Bydd y maes parcio aml-lawr yn darparu mannau i ymwelwyr sy’n dewis gyrru i’r lleoliad, yn ogystal â’r cyfleusterau parcio a theithio yng ngorsaf metro arfaethedig Llaneirwg.
Bydd y maes parcio aml-lawr newydd ar waith cyn i’r arena agor.
Cynaliadwyedd a’r amgylchedd |
Bydd yr arena yn cael ei dylunio gydag acwsteg o’r radd flaenaf i amsugno sain a lleihau llygredd sŵn. Bydd cynllun rheoli digwyddiadau ar waith cyn ac ar ôl pob digwyddiad i reoli torfeydd a helpu pobl i gyrraedd trafnidiaeth leol yn effeithlon ac yn ddiogel, fel nad oes llawer o darfu ar drigolion lleol.
Nod uwchgynllun Glanfa’r Iwerydd yw darparu datblygiad carbon sero net ar draws y safle cyfan yn seiliedig ar ddarparu adeiladau sy’n effeithlon o ran ynni gyda chyflenwad ynni o ffynonellau adnewyddadwy.
Mae datblygwyr ar gyfer yr arena wedi ymrwymo i ddarparu adeilad sy’n defnyddio adnoddau’n effeithlon. Mae’r arena arfaethedig yn ymateb yn amgylcheddol o ran dylunio a bydd yn gwneud y defnydd gorau posibl o ynni’r haul ymhlith mesurau cynaliadwyedd eraill i leihau’r defnydd o ynni ac allyriadau carbon cyffredinol.
Swyddi a chymuned |
Yn gyffredinol, disgwylir i Uwchgynllun Glanfa’r Iwerydd greu miloedd o swyddi. Bydd yr arena yn creu tua 500 o swyddi yn ystod y gwaith adeiladu a 500 arall unwaith y bydd ar waith rhwng swyddi amser llawn a rhan-amser.
Mae Cyngor Caerdydd, y datblygwr a’r gweithredwr yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor i Mewn i Waith i sicrhau cyfleoedd gwaith i bobl leol.
Bydd yr arena’n cynnig cyfleoedd sylweddol i gefnogi mentrau cymunedol lleol. Dros y flwyddyn nesaf byddwn yn gweithio gyda grwpiau cymunedol i sefydlu’r ffordd orau o gefnogi grwpiau a phrosiectau cymunedol lleol.
Bydd yr arena’n creu swyddi amser llawn a rhan-amser i helpu i gynnal y lleoliad o ddydd i ddydd ac yn ystod digwyddiadau. Bydd y rolau’n cynnwys: rheoli, rheolwyr dyletswydd, cymorth gweinyddol a chyfreithiol, staff technegol – e.e. rigwyr, rheolwyr swyddfeydd tocynnau, staff meddygol a diogelwch tân, cydgysylltwyr parcio (tryciau, bysiau ac ati), gweithredwyr a staff bwyd a diod, stiwardiaid a staff diogelwch.
Yn ystod y gwaith adeiladu, bydd rolau’n cynnwys: syrfewyr meintiau, rheolwyr prosiectau a safleoedd, rheolwyr dogfennau, gweinyddwyr safle, gweithwyr safle, bricwyr, saernïwyr, trydanwyr, gweithwyr gosod lloriau, paentwyr ac addurnwyr, gweithwyr gosod pyst seiliau, plymwyr, sgaffaldwyr a gweithwyr craen.
Byddwn yn cynnig prentisiaethau a lleoliadau gwaith yn ystod y gwaith adeiladu ac wrth i’r lle fod yn gweithredu, ac yn gweithio gydag ysgolion a sefydliadau addysg bellach ac uwch i gynnig cyfleoedd.
Rydym am i gynifer o’n busnesau lleol â phosibl fanteisio ar gyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi. Wrth i’r cais cynllunio fynd yn ei flaen byddwn yn ymgysylltu’n rhagweithiol â busnesau lleol ac yn cyhoeddi mwy o wybodaeth am sut i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth a’r gadwyn gyflenwi.
Cofrestrwch ar gyfer yr e-gylchlythyr a llenwch ein holiadur.
Preswylwyr |
Drwy gydol y broses ymgynghori byddwn yn rhoi gwybod am ddatblygiadau i drigolion cyfagos a lleol drwy’r post neu dros e-bost – mewn llythyr, taflen neu gylchlythyr, ynghyd â rhoi diweddariadau ar y wefan hon.
Rydym hefyd yn gobeithio cynnal ymgynghoriadau cyhoeddus dros yr haf, os yw cyfyngiadau Covid-19 yn caniatáu hynny.
I ymuno â’n rhestr bostio i gael diweddariadau am y gwaith datblygu, cofrestrwch nawr.
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod yr uwchgynllun arfaethedig yn cael ei lywio gan fewnbwn cymunedol lleol ac yn ymateb iddo. Rydym wedi cynllunio cyfres o weminarau ar-lein fel y gall trigolion cyfagos a lleol ofyn cwestiynau a chael ateb iddynt.
Wrth i gyfyngiadau leddfu, gallwn fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer digwyddiadau galw heibio, gweithdai ac arddangosfeydd ymgynghori.
Credwn y bydd y cynlluniau i ailddatblygu Glanfa’r Iwerydd, Butetown a chreu ardal gyhoeddus newydd yn denu ymwelwyr newydd i’r ardal ac yn adfywio gwariant lleol.
Cartrefi Newydd |
Bydd tai yn gymysgedd o fflatiau un, dwy a thair ystafell wely i’w gwerthu a’u rhentu.
Bydd, i bobl leol a’r rhai sydd am symud i’r ardal.
Nid ydym wedi cwblhau’r union amserlenni eto ond mae’n debygol y bydd tai’n cael eu hadeiladu yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Manwerthu Newydd |
Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn ystyried dyfodol Canolfan Red Dragon, p’un ai i adnewyddu neu ei darparu o fewn cyfleuster newydd fel rhan o adfywiad ehangach. Disgwylir adroddiad i’r Cabinet yn yr hydref.
Rydym yn rhagweld mai lleoedd hamdden, bwyd a diod fydd y rhain yn bennaf.
Bydd, rydym wedi ymgorffori gofod amgueddfeydd yn yr uwchgynllun, yn edrych allan ar Rodfa Lloyd George a’r Flourish.
Bydd hwn yn lle amlbwrpas ar gyfer ymarferion a hyfforddiant yn ogystal â pherfformiadau bach i gefnogi’r lleoliadau mwy.
Gwesty Newydd |
Gyda chynnydd disgwyliedig yn nifer yr ymwelwyr â’r ardal, bydd y gwesty newydd yn helpu i ateb y galw am lety cyfagos.
Disgwyliwn i’r gwesty cyntaf gael ei gwblhau erbyn 2025 a bydd gwestai eraill yn dilyn yn seiliedig ar alw’r farchnad.
Y cynnig yw adeiladu gwesty newydd i’r gogledd o’r arena. Bydd y gwesty presennol wedyn yn cael ei ddymchwel i wneud lle ar gyfer sgwâr cyhoeddus.