Gweledigaeth sy’n cefnogi swyddi, cyflogadwyedd ac sy’n cael effaith gadarnhaol ar yr economi leol
Mae adfywio Glanfa’r Iwerydd Butetown, Caerdydd yn rhan graidd o’r weledigaeth i ddod â manteision cynaliadwy i bobl a busnesau lleol.
Rydym wedi ffurfio partneriaeth ag I Mewn i Waith Caerdydd i’n helpu i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant. Ac wrth i’r uwchgynllun fynd yn ei flaen byddwn yn cynnig mwy o wybodaeth am le i ddod o hyd i swyddi, hyfforddiant a chyfleoedd cadwyn gyflenwi.
Bydd yr arena’n creu swyddi amser llawn a rhan-amser i helpu i gynnal y lleoliad o ddydd i ddydd ac yn ystod digwyddiadau. Bydd y rolau’n cynnwys: rheoli, rheolwyr dyletswydd, cymorth gweinyddol a chyfreithiol, staff technegol – e.e. rigwyr, rheolwyr swyddfeydd tocynnau, staff meddygol a diogelwch tân, cydgysylltwyr parcio (tryciau, bysiau ac ati), gweithredwyr a staff bwyd a diod, stiwardiaid a staff diogelwch.
Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin i gael gwybod pa fathau o swyddi fydd ar gael yn y lleoliad yn ystod ac ar ôl adeiladu.