Wrth i ni ddechrau 2025, mae Gwaith Datblygu Gwesty ac Arena Caerdydd yn mynd rhagddo yn gyflym.
Gwaith ar Garthffosydd
Mae Knights Brown yn parhau gyda’r gwaith dargyfeirio carthffosydd dwfn dŵr wyneb yng nghornel ogledd-orllewinol y safle; mae disgwyl i’r gwaith hwn gael ei gwblhau ganol mis Mawrth 2025. Mae Knights Brown yn cyhoeddi diweddariadau manwl ar y gwaith i eiddo cyfagos.
Clirio Safle a Dargyfeirio Cyfleustodau
Mae Provectus wedi dechrau gwneud y gwaith paratoi safle ar gyfer y prif gontract adeiladu a dargyfeirio’r gwasanaethau cyfleustodau sy’n weddill. Mae hyn yn cynnwys gosod system ddraenio dŵr wyneb newydd o’r safle i Ddoc Dwyreiniol Bute; dargyfeirio ceblau telathrebu, trydan, y garthffos fudr a dŵr. Mae disgwyl i’r gwaith hwn gael ei gwblhau ym mis Medi 2025.
Llwybr i Gerddwyr
O ganlyniad i’r gwaith Paratoi Safle a Dargyfeirio Cyfleustodau, ni fydd mynediad i gerddwyr trwy safle Neuadd y Sir o 17 Chwefror 2025. Bydd mynediad i’r Bae a Chanolfan Red Dragon trwy Barc y Silwriaid a Rhodfa Lloyd George fel y dangosir. Bydd y llwybr hwn, sydd eisoes wedi’i sefydlu, yn parhau i fod ag arwyddion. Tan 17 Chwefror 2025, bydd mynediad i gerddwyr trwy safle Neuadd y Sir, ond mae’r llwybr troed rhwng y mannau parcio sy’n cysylltu â Heol Hemingway yn rhan o’r safle a bydd yn cau.
Cau Ffyrdd
Bydd Heol Hemingway, rhwng cylchfan Hemingway a Rhodfa Lloyd George, a rhan ddeheuol Ffordd y Sgwner ar gau yn barhaol o 24 Chwefror 2025.
Bydd mynediad i gerddwyr o Rodfa Lloyd George i gylchfan Heol Hemingway ar hyd blaen gwesty Travelodge ac o gwmpas cefn y safle.
Rydym yn deall y bydd ein gweithgareddau datblygu yn achosi rhywfaint o darfu ac anghyfleustra, ac rydym yn gwerthfawrogi’n fawr eich amynedd a’ch dealltwriaeth. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy’r wefan https://glanfariweryddcaerdydd.co.uk/