ARENA DAN DO NEWYDD CAERDYDD YN CAEL CYMERADWYAETH DERFYNOL

Mae’r cynlluniau ar gyfer arena dan do hir-ddisgwyliedig Caerdydd, fydd yn dal 16,500 o bobl, wedi cyrraedd carreg filltir sylweddol heddiw wrth i Gyngor Caerdydd a’r consortiwm, sy’n cynnwys Live Nation Entertainment, OVG a Robertson Property, gyhoeddi eu bod yn cwblhau’r agweddau ariannol ar y prosiect.

Mae’r cyhoeddiad yn gam allweddol ymlaen wrth ddarparu lleoliad o’r radd flaenaf a fydd yn denu artistiaid ac adloniant o safon ryngwladol i’r ddinas.

Disgwylir i’r arena gael effaith drawsnewidiol ar dirwedd ddiwylliannol ac economaidd Caerdydd, gan greu dros fil o swyddi a denu dros filiwn o ymwelwyr i’r ardal bob blwyddyn.

Ar gyfartaledd, mae’r rheiny sy’n mynd i sioeau arena yn y DU yn gwario rhwng £100-£150 yn yr economi leol y tu allan i’r lleoliad. Bydd yr hwb economaidd hwn yn cael effaith sylweddol ar adfywio’r ardal leol, gan helpu i sbarduno datblygiadau pellach yn yr ardal ac adfywio Bae Caerdydd.

Yn ogystal â’i chyfraniadau economaidd, bydd yr arena yn cefnogi sector diwylliannol a chreadigol y ddinas am flynyddoedd i ddod, gan chwarae rhan hanfodol wrth gadarnhau enw da Caerdydd fel cyrchfan boblogaidd ar y map teithiau rhyngwladol.

Mae’r newyddion am gwblhau’r agweddau ariannol yn cyd-fynd â chyhoeddi McLaren Construction yn gontractwyr ar gyfer yr arena.

Drwy gydol y prosiect bydd ffocws cryf ar gynaliadwyedd, gwerth cymdeithasol a chreu cyfleoedd cyflogaeth lleol yn ardal Caerdydd, a fydd yn sicrhau bod y gymuned leol yn elwa o’r prosiect yn ystod y cyfnod adeiladu yn ogystal â phan fydd y lleoliad yn weithredol. Mae’r agoriad swyddogol wedi’i gynllunio ar gyfer 2028.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes a Masnach, Jonathan Reynolds:
“Mae ein diwydiannau creadigol yn arweinwyr byd-eang, ac mae hon yn dystiolaeth glir arall o hyder yn ein heconomi a sefyllfa’r DU fel uwch-bŵer creadigol byd-eang.
“Mae ein Strategaeth Ddiwydiannol fodern yn gynllun beiddgar ar gyfer adnewyddu cenedlaethol, gyda nod o gynyddu buddsoddiad yn ein diwydiannau creadigol yn sylweddol. Rwy’n falch iawn y bydd yr arena newydd hon yn creu dros 1000 o swyddi newydd, gan roi hwb i economi Cymru, y gymuned leol, a chefnogi ein Cynllun ar gyfer Newid.”

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd“Bydd yr arena hon yn trawsnewid economi ymwelwyr Caerdydd mewn ffordd na welwyd ei thebyg ers agor y stadiwm yn 1999. Mae’n fwy na’r brics a’r morter; mae’n ymwneud â gosod y sylfaen a chyfoethogi statws Caerdydd fel cyrchfan fywiog, ddeinamig ar gyfer cerddoriaeth a diwylliant. Bydd y prosiect yn sicrhau bod Caerdydd yn parhau i ffynnu fel canolbwynt creadigrwydd ac arloesi. Dyma gonglfaen ein strategaeth Dinas Gerdd, sy’n anelu at gefnogi pob rhan o ecosystem gerddoriaeth Caerdydd – o gerddorion i gynhyrchwyr, hyrwyddwyr a lleoliadau.
Ond yn hanfodol, bydd y prosiect hwn yn sbarduno twf economaidd a gwerth cymdeithasol, yn enwedig yn yr ardal o amgylch yr arena, gan greu swyddi a chodi gorwelion yn rhai o gymunedau mwyaf heriol Cymru yn economaidd. Am yr holl resymau hyn mae’r Arena wedi bod yn flaenoriaeth i weinyddiaeth y Cyngor ers dros ddegawd, ac felly rwy’n falch iawn bod y garreg filltir dyngedfennol hon bellach wedi’i chyflawni.”

Dywedodd Graham Walters, Uwch Is-lywydd Datblygu Arenau a Lleoliadau Live Nation: “Mae’r arena newydd yng Nghaerdydd yn brosiect pwysig i ni, ac yn cyflawni nod Live Nation o ddatblygu lleoliadau mewn ardaloedd lle mae galw amlwg gan ddefnyddwyr am fwy o adloniant byw. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn dod â ni gam yn nes at agor y drysau i gefnogwyr ar y noson gyntaf.”

Dywedodd Elliot Robertson, Prif Swyddog Gweithredol, Robertson Group: “”Mae Arena Caerdydd yn nodi cyfnod trawsnewidiol i’r ddinas, gan ddod ag adloniant byw o’r radd flaenaf i’r ddinas tra’n sbarduno manteision economaidd a chymdeithasol sylweddol. Mae’r prosiect hwn yn fwy na lleoliad yn unig; mae’n gatalydd ar gyfer twf, gan greu dros fil o swyddi, rhoi hwb i fusnesau lleol, ac atgyfnerthu safle Caerdydd fel canolfan ddiwylliannol a chreadigol ar y llwyfan byd-eang.”

Scroll to Top